Mae undeb UNSAIN wedi cadarnhau y bydd ei aelodau yn y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru yn streicio am hanner diwrnod ym mis Tachwedd.
Fe fydd hynny’n cael ei ddilyn gan bedwar diwrnod o weithio’n gaeth i’r rheolau – heb ddim amser dros ben a chymryd seibiant yn hollol brydlon.
Mae’r gweithredu’n rhan o anghydfod rhwng y gweithwyr a Llywodraeth Cymru tros benderfyniad cyflog.
Manylion y streic
Bydd yr aelodau’n cynnal y streic rhwng 8.30 y bore a hanner dydd ddydd Llun 10 Tachwedd.
Bydd nyrsys, therapyddion, parafeddygon, cogyddion, porthorion, ysgrifenyddion meddygol, cynorthwywyr gofal iechyd a glanhawyr yn gadael eu gwaith.
Maen nhw’n protestio am fod Llywodraeth Cymru wedi gwrthod rhoi codiad cyflog o 1% iddyn nhw, er gwaetha’ argymhellion Adolygiad Tâl y Gwasanaeth Iechyd.
Yn hytrach, mae’r Llywodraeth wedi cynnig un taliad ychwanegol o £160 i’r holl staff.
‘Siomedig’
Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi dweud eu bod nhw’n siomedig gyda phenderfyniad aelodau UNSAIN i streicio.
Roedd 77% wedi pleidleisio dros streicio a 90% tros weithredu llai difrifol. Roedd 5,715 o aelodau wedi cymryd rhan yn y bleidlais.
UNSAIN yw’r undeb iechyd mwyaf yng Nghymru a dyma’r tro cynta’ i weithwyr iechyd yr undeb yng Nghymru streicio dros gyflogau ers 32 mlynedd.
‘Ewyllys da yn brin
Dywedodd Dawn Bowden, pennaeth iechyd UNISON Cymru nad yw gweithwyr y Gwasanaeth Iechyd yn gweithredu’n ddifeddwl ond bod ewyllys da ymysg y staff yn isel iawn.
“R’yn ni’n deall y cymhlethdodau o fewn cyllideb Cymru, ond does dim disgwyl i’r gweithlu barhau i lenwi’r bwlch ariannol yn y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru.”
Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae’n rhaid dal yn ôl ar gyflogau er mwyn cynnal swyddi a gwasanaethau rheng flaen gan y bydd cyllideb y Llywodraeth 10% yn is mewn termau real erbyn 2015-16 nag yr oedd yn 2010-11.