Mair Rowlands
Mae cynrychiolwyr yng Nghynhadledd Plaid Cymru wedi cefnogi cynnig brys yn galw am ostwng yr oed pleidleisio i 16 oed.
Roedd y cynnig gan adran ieuenctid y Blaid yn galw am gyflwyno deddfwriaeth i ganiatau i bobl 16 a 17 oed bleidleisio yn etholiad cyffredinol y Deyrnas Gyfunol flwyddyn nesaf.
Cefnogwyd hefyd alwad i roi grymoedd llawn i’r Cynulliad Cenedlaethol er mwyn iddo allu gostwng yr oed pleidleisio mewn da bryd ar gyfer Etholiad Cyffredinol Cymru 2016.
Dywedodd Mair Rowlands, Ymgeisydd San Steffan i Blaid Cymru yn Nyffryn Clwyd: “Dylai bobl ifanc gael yr hawl i gynrychiolaeth. Maent yn gwneud penderfyniadau cymhleth am eu bywydau bob dydd.
“Mae pobl 16 a 17 oed bellach yn gwybod mwy am wleidyddiaeth nac erioed o’r blaen a maent yr un mor angerddol am y byd o’u cwmpas ag yr ydym ni i gyd.
“Dylai pobl ifanc sydd am fynegi barn trwy fwrw pleidlais mewn etholiad cyhoeddus gael gwneud hynny.”
Refferendwm Yr Alban
Dywedodd Simon Thomas AC, Gweinidog Cysgodol Plaid Cymru dros Addysg: “Mae’r Alban wedi dangos pwysigrwydd pobl ifanc yn cymryd rhan mewn gwleidyddiaeth. Byddwn yn gwneud penderfyniadau pwysig yn y blynyddoedd nesaf am addysg, yn cynnwys ffioedd dysgu.
“Mae’n bwysig bod lleisiau pobl ifanc yn cael eu clywed. Gall democratiaeth Cymru dim ond elwa os yw pobl o bob oed yn rhan o’r broses gwleidyddol. Mae cefnogaeth draws-bleidiol yn y Cynulliad Cenedlaethol i ostwng yr oed pleidleisio.”
Yn ystod refferendwm yr Alban yn ddiweddar cofrestrodd dros 109,000 o bobl ifanc dan 18 oed i bleidleisio yn 16 oed, sy’n digwydd eisoes mewn gwledydd fel yr Almaen, Awstria, yr Ariannin a Brasil.
Yn ddiweddar fe fu golwg360 draw yn Ysgol Bro Pedr, Llanbed, i holi barn rhai o ddisgyblion y chweched dosbarth. Dyma oedd eu barn nhw ar ostwng yr oedran pleidleisio: