Mae Aelodau Seneddol wedi bod yn trafod atgyfodi hen wasanaeth llong hofran rhwng gogledd Cymru a Glannau Merswy.
Roedd teithiau o’r fath yn arfer mynd o’r Rhyl i’r Wirral hanner canrif yn ôl, a’r gobaith yw y gallai gwasanaeth newydd o’r fath fod yn hwb i dwristiaeth a busnesau.
Fe gynhaliwyd cyfarfod yn Llundain yn ddiweddar rhwng cwmni Hoverlink, Aelodau Seneddol a’r gweinidog trafnidiaeth Robert Goodwill i drafod cynlluniau ar gyfer ailddechrau’r teithiau llong hofran.
Cafodd y cyfarfod ei gynnal ar ôl i Chris Ruane, AS Dyffryn Clwyd, godi’r mater mewn dadl yn Nhŷ’r Cyffredin ym mis Gorffennaf.
Yn ogystal â Chris Ruane, roedd AS Gorllewin Wirral Esther McVey, AS Gogledd Blackpool a Cleveleys Paul Maynard, ac AS Liverpool Riverside Louise Elman – sydd yn Gadeirydd ar y Pwyllgor Trafnidiaeth – yn bresennol.
Y cyntaf erioed
“Roedd y gwasanaeth llong hofran cyntaf i deithwyr yn y byd yn rhedeg rhwng Y Rhyl a Wirral dros hanner canrif yn ôl ac fe fyddai’n wych ei weld yn dychwelyd,” meddai Chris Ruane.
“Fe allai gwasanaeth llong hofran gynnig cyfleoedd busnes, twristiaeth a theithio gwych ar draws gogledd Cymru gyfan a gogledd orllewin Lloegr.
“Mae achos busnes cryf, digon o ewyllys da a photensial anferthol.
“Gobeithio y gallai Hoverlink symud ymlaen gyda’u cynlluniau ar gyfer y gwasanaeth a dechrau mor fuan â phosib.”