Stadiwm Liberty yn Abertawe
Mae Cyngor Dinas a Sir Abertawe wedi penderfynu cyflwyno cerbydau newydd ar y strydoedd er mwyn mynd i’r afael â phroblemau parcio.

Bydd camerâu yn y cerbydau’n gallu adnabod ceir sydd wedi cael eu parcio’n anghyfreithlon.

Fe fu llu o gwynion ar draws y ddinas yn ddiweddar am geir sydd wedi cael eu parcio’n anghyfreithlon, ond mae trigolion yn ardal Glandŵr yn enwedig yn anhapus bod gyrwyr yn parcio’u ceir mewn safleoedd i breswylwyr yn unig ar ddiwrnodau gemau yn Stadiwm Liberty.

Mae’r Cyngor wedi penderfynu cyflogi goruchwylwyr traffig o 7 o’r gloch y bore tan 10 o’r gloch y nos o amgylch y stadiwm i ddatrys y broblem yno.

Mae’r Cyngor yn dweud bod digon o feysydd parcio o amgylch y stadiwm fel nad oes angen i gefnogwyr barcio ar y stryd.

Fis diwethaf, fe fu’n rhaid i fusnes lleol ymddiheuro wedi i lun ddangos bod fan wedi rhwystro dyn mewn cadair olwyn rhag gallu mynd ar hyd palmant ger Stadiwm Liberty.

Mae’r Cyngor eisoes wedi darparu lle ychwanegol i 200 o geir ger y stadiwm y tymor hwn.