Mae Warren Gatland wedi enwi carfan brofiadol ar gyfer gemau Cymru yn yr hydref yn erbyn Awstralia, Fiji, Seland Newydd a De Affrica.
Ond does dim lle i’r prop Adam Jones, a gollodd ei le yn y tîm yn ystod y daith i Dde Affrica dros yr haf.
Sam Warburton fydd yn arwain y tîm fel y capten unwaith yn rhagor, er gwaethaf sôn fod Alun Wyn Jones yn cael ei ystyried.
Dan Biggar a Rhys Priestland fydd yn brwydro am safle’r maswr, gyda Mike Phillips, Rhys Webb a Rhodri Williams yn cystadlu am y crys rhif naw.
Cafodd y ‘Cymry oddi Cartref’ yn Ffrainc a Lloegr gan gynnwys Dan Lydiate, Jamie Roberts, Leigh Halfpenny, Paul James a Luke Charteris hefyd eu henwi yn y garfan.
Ond does dim lle i rai o’r alltudion eraill gan gynnwys James Hook, Ian Evans a Gavin Henson yn y garfan o 34 chwaraewr.
Mae asgellwyr y Dreigiau Hallam Amos a Tom Prydie wedi’u cynnwys gydag Alex Cuthbert a George North, sydd yn golygu nad oes lle i Eli Walker o’r Gweilch.
Dewis profiad
Fe allai prop 20 oed y Gweilch Nicky Smith ennill ei gap cyntaf dros Gymru os yw’n chwarae yn un o’r gemau fis Tachwedd.
Ond gyda Chwpan Rygbi’r Byd llai na blwyddyn i ffwrdd, mae Gatland wedi glynu at enwau cyfarwydd ar y llwyfan ryngwladol ar y cyfan.
Dyma fydd cyfle olaf Cymru i geisio trechu un o gewri hemisffer y de mewn her hydrefol cyn hynny, rhywbeth fyddai’n rhoi hwb mawr i’r tîm ar gyfer y twrnament fydd yn cael ei chynnal gan Loegr yn 2015 a fydd hefyd yn defnyddio Stadiwm y Mileniwm.
Mae Fiji ac Awstralia, yn ogystal â Lloegr, hefyd yng ngrŵp Cymru ar gyfer Cwpan y Byd ac felly fe fydd y gemau nesaf yn gyfle i’r timau brofi’u gilydd.
Carfan Cymru
Blaenwyr: Gethin Jenkins (Gleision), Paul James (Caerfaddon), Nicky Smith (Gweilch), Richard Hibbard (Caerloyw), Emyr Phillips (Scarlets), Scott Baldwin (Gweilch), Aaron Jarvis (Gweilch), Samson Lee (Scarlets), Rhodri Jones (Scarlets), Alun Wyn Jones (Gweilch), Jake Ball (Scarlets), Bradley Davies (Wasps), Luke Charteris (Racing Metro), Dan Lydiate (Racing Metro), James King (Gweilch), Sam Warburton (Gleision – capten), Justin Tipuric (Gweilch), Dan Baker (Gweilch), Taulupe Faletau (Dreigiau)
Olwyr: Mike Phillips (Racing Metro), Rhys Webb (Gweilch), Rhodri Williams (Scarlets), Dan Biggar (Gweilch), Rhys Priestland (Scarlets), Cory Allen (Gleision), James Roberts (Racing Metro), Jonathan Davies (Clermont), Scott Williams (Scarlets), Hallam Amos (Dreigiau), Alex Cuthbert (Gleision), George North (Northampton), Tom Prydie (Dreigiau), Leigh Halfpenny (Toulon), Liam Williams (Scarlets)