Garry Monk ar ol gem Abertawe a Stoke
Mae cadeirydd Stoke wedi beirniadu cyn-ymosodwr Cymru John Hartson am sylwadau a wnaeth ar raglen Match Of The Day 2, wrth i’r ffrae waethygu rhyngddyn nhw ag Abertawe.

Fe enillodd Stoke 2-1 yn erbyn yr Elyrch ar brynhawn Sul, ond roedd rheolwr Abertawe Garry Monk yn gandryll ar ôl y gêm gan gyhuddo ymosodwr Stoke Victor Moses o ddeifio i ennill cic o’r smotyn.

Cytunodd Hartson, oedd yn sylwebydd ar MOTD2 y noson honno, gyda sylwadau Monk ac mae cadeirydd Stoke Peter Coates nawr wedi dweud y bydd yn cwyno i’r BBC am y mater.

“Gwarthus”

Yn ei sylwadau ar ôl y gêm dywedodd Garry Monk fod Moses wedi twyllo i ennill y gic o’r smotyn, ar ôl ymddangos fel ei fod wedi taflu’i hun i’r llawr heb fawr o gyffyrddiad gan amddiffynnwr Abertawe Angel Rangel.

Fe gwynodd Monk am y dyfarnwr Michael Oliver am roi’r gic o’r smotyn, yn ogystal â phennaeth dyfarnwyr yr Uwch Gynghrair Mike Riley am beidio ag ymateb i’w bryderon cyson am benderfyniadau honedig yn erbyn ei dîm.

Mae disgwyl nawr y bydd Monk yn wynebu cosb gan y Gymdeithas Bêl-droed am ei sylwadau, ond ar MOTD2 fe fynnodd Hartson y dylai ymosodwr Stoke gael ei gosbi hefyd.

“Un peth yw i’r FA ystyried cosbi Garry Monk – ond beth am ystyried cosbi Victor Moses am ddeifio?” meddai’r Cymro.
“Bydden i yn [ceisio cosbi Moses] achos allwch chi ddim deifio. Roedd hwnna’n ddeif amlwg.”

Mae Coates bellach wedi ymateb yn chwyrn i sylwadau Hartson, ac amddiffyn ei benderfyniad i gwyno i’r darlledwyr.

“Dydw i erioed wedi clywed barn mor unochrog gan sylwebydd ac mae’n iawn ein bod ni’n cwyno am y peth,” meddai Coates wrth y Stoke Sentinel.

“Roedd Hartson yn warthus. Mae’n gefnogwr mawr o Abertawe a’u rheolwr … ac roedd hynny’n amlwg.”

Rangel yn bendant

Mae Rangel, a gyflawnodd y drosedd honedig yn erbyn Moses, yn mynnu fodd bynnag nad oedd hi’n gic o’r smotyn.

“Weithiau mae’n rhaid i chi wylio rhywbeth yn ôl i weld beth ddigwyddodd, ond roeddwn i’n gwybod nad oedd hi’n gic o’r smotyn,” meddai’r Sbaenwr.

“Roedd hi’n amlwg nad oedd fawr o gyffyrddiad. Roedd hi’n annheg.

“Fe ddywedodd y bechgyn i gyd a’r rheolwr wedi gwylio’r peth eto a dweud nad oedd yna lawer o gyffyrddiad – roedd e’n deifio hyd yn oed cyn i mi geisio’i daclo.”

Dywedodd capten Abertawe Ashley Williams ei fod yntau’n cytuno fod Oliver – “un o fy hoff ddyfarnwyr” – wedi cael y penderfyniad yna’n anghywir.

Cytunodd ymosodwr Stoke Jon Walters nad oedd hi’n gic o’r smotyn amlwg chwaith, ond mynnodd y Gwyddel fod Oliver wedi cosbi Abertawe oherwydd ei fod wedi rhoi cic o’r smotyn amheus iddyn nhw’n gynharach.

Rhwydodd Wilfried Bony’r gôl agoriadol o ddeuddeg llathen ar ôl i amddiffynnwr Stoke Ryan Shawcross gael ei gosbi am afael yn Bony a’i dynnu lawr yn y cwrt cosbi.

“Dw i ddim yn meddwl y byddai o wedi rhoi’r ail un [i Stoke] petai o heb roi’r cyntaf [i Abertawe],” meddai Walters, a beniodd y gôl fuddugol. “Roedd e’n un sofft mae’n siŵr, ond mae’r pethau yma’n digwydd.”