Mae’r Gweilch wedi cadarnhau nad yw anaf eu hwythwyr Dan Baker mor wael â’r disgwyl, ar ôl iddo gael ei gludo o’r cae yn erbyn Treviso dros y penwythnos.
Fe allai nawr gael ei ddewis yng ngharfan Cymru sydd yn cael ei enwi am 11yb heddiw ar gyfer gemau’r hydref fis nesaf yn erbyn Awstralia, Fiji, Seland Newydd a De Affrica.
Cafodd Baker ei gario oddi ar y cae ar ôl taro’i ben a chwyno am boenau yn ei wddf wrth i’r Gweilch drechu’r Eidalwyr 42-7 yn eu gêm agoriadol yng Nghwpan Pencampwyr Ewrop ddydd Sul.
Fe aethpwyd â’r blaenwr 22 oed i Ysbyty Treforys ond ar ôl cael profion mae meddygon y Gweilch wedi cadarnhau mai mân anafiadau gafodd ac nad oes niwed difrifol.
Bydd Baker yn parhau i dderbyn triniaeth gan dîm meddygol y rhanbarth yr wythnos hon ond fe ddywedodd y Gweilch na fydd yn cael ei ystyried ar gyfer y gêm yn erbyn Northampton ddydd Sadwrn.
Mae Baker wedi bod yn un o sêr y Gweilch hyd yn hyn y tymor hwn, ac roedd disgwyl y byddai Gatland yn ei gynnwys yn y garfan ddiweddaraf.
Fe allai hynny weld Baker yn ychwanegu at y ddau gap y mae wedi ennill eisoes dros Gymru, y ddwy ar y daith i Siapan yn haf 2013.