Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi cael dirwy o £4,000 ar ôl i rai o’u cefnogwyr redeg ar y cae i ddathlu gôl yn erbyn Andorra fis diwethaf.

Cafodd Andorra eu cosbi hefyd am fethu â stiwardio’r maes yn ddigonol, ac am ddiffyg disgyblaeth ar y cae.

Fe sgoriodd Gareth Bale gic rydd gyda deng munud i fynd er mwyn cipio buddugoliaeth o 2-1 i Gymru yn eu gêm ragbrofol Ewro 2016 cyntaf ar 9 Medi, ac fe ddathlodd y cefnogwyr yn wyllt.

Rhedodd rhyw ugain ohonynt ar y cae i ddathlu’r gôl, cyn iddyn nhw gael eu hanfon i ffwrdd gan chwaraewyr Cymru.

Mae UEFA nawr wedi rhoi dirwy o €5,000 (£4,000) i Gymru am ymddygiad eu cefnogwyr.

Cafodd Andorra ddirwy o €10,000 am nad oedd ganddyn nhw ddigon o stiwardiaid yn rhan cefnogwyr Cymru o’r stadiwm, ac oherwydd i chwech o’u chwaraewyr gael cardiau melyn yn ystod y gêm.

Ers y gêm honno yn Andorra mae Cymru wedi cael gêm gyfartal yn erbyn Bosnia a threchu Cyprus, ac maen nhw ar frig Grŵp B gyda saith pwynt.