Ched Evans
Fe ddylai Ched Evans gael yr hawl i chwarae pêl-droed rhyngwladol dros Gymru eto, yn ôl mwyafrif a bleidleisiodd ar bôl piniwn golwg360.

Cafodd Evans ei ryddhau o’r carchar ddydd Gwener ar ôl treulio dwy flynedd a hanner dan glo am dreisio dynes mewn gwesty yn Y Rhyl yn 2011, trosedd y mae’n ei wadu o hyd.

Ar hyn o bryd mae cyn-glwb yr ymosodwr, Sheffield United, yn ystyried a ydyn nhw am ailarwyddo Evans yn sgil galwadau cyhoeddus ar i’r ymosodwr beidio â chael chwarae’n broffesiynol eto.

Dywedodd 57% o dros gant a hanner o bobl a bleidleisiodd y dylai’r ymosodwr gael yr hawl i gynrychioli’i wlad eto petai’n cael ei ddewis – sefyllfa allai godi petai’n dechrau sgorio’n gyson i glwb unwaith eto.

Ond roedd un o bob tri o’r farn na ddylai Evans, sydd wrthi’n apelio’i ddedfryd ar hyn o bryd, gael chwarae dros Gymru yn y dyfodol, gydag un ym mhob deg ddim yn siŵr.

Y trafod yn parhau

Yn ystod yr wythnosau diwethaf mae gwleidyddion gan gynnwys Nick Clegg wedi cwestiynu a ddylai Ched Evans gael ailgydio’n ei yrfa fel pêl-droediwr, ac mae 150,000 o bobl bellach wedi arwyddo deiseb yn galw ar Sheffield United i beidio â’i arwyddo.

Fodd bynnag mae Evans yn awyddus i ddychwelyd i’r byd pêl-droed, ac mae trafodaethau wedi digwydd eisoes rhyngddo ef a’r clwb, er i Sheffield United wadu dros y penwythnos eu bod wedi cynnig cytundeb iddo.

Fe gafwyd Evans yn euog yn 2012 o dreisio’r ferch, oedd yn 19 oed ar y pryd, gyda’r rheithgor yn dyfarnu’i bod hi wedi meddwi gormod i allu cydsynio i Evans gael rhyw â hi.

Cafwyd ffrind Ched Evans, Clayton MacDonald, yn ddieuog gan yr un llys o dreisio ar ôl iddo ef gael rhyw â’r ddynes cyn i Evans wneud.

Mae Evans bellach wedi ymddiheuro wrth ei gariad Natasha Massey, sydd wedi’i gefnogi drwy gydol yr achos, am ei ymddygiad ar y noson – ond heb ymddiheuro o gwbl am y weithred o dreisio.

Dros y penwythnos fe gyhoeddodd y Comisiwn Adolygu Achosion Troseddol, sydd yn delio ag apêl Evans, y byddan nhw’n ystyried ei achos yn gynt na’r disgwyl, gan bwysleisio nad oedd hyn yn adlewyrchiad o gwbl o gryfder yr achos.

Dadansoddiad Iolo Cheung

Mae’n ddiddorol gweld bod cymaint â hynny o fwlch rhwng y bobl a bleidleisiodd yn y pôl piniwn o blaid ac yn erbyn gadael i Ched Evans chwarae dros Gymru eto.

Hwn yw un o bynciau llosg mwyaf y wasg Brydeinig ar hyn o bryd, heb sôn am yma yng Nghymru, ac o edrych ar sylwadau pobl ar Twitter y diwrnod cafodd Evans ei ryddhau, roedd y farn wir yn rhanedig.

Mae rhai sydd yn dadlau ei fod wedi treulio’i gyfnod dan glo bellach ac yn haeddu ailgydio mewn bywyd yn y gymdeithas.

Ond yn ôl eraill ddylai hynny ddim ymestyn i chwarae pêl-droed proffesiynol, ble mae pêl-droedwyr yn aml yn gosod esiampl i blant, yn enwedig gan nad yw wedi edifar ac ymddiheuro am ei drosedd.

Wrth gwrs, dyw Ched Evans methu ymddiheuro am dreisio’r ddynes ar hyn o bryd os yw ynghanol y broses o apelio.

Beth dyw’r pôl ddim yn ei ddangos chwaith yw beth yw’r gwahaniaeth barn rhwng cefnogwyr pêl-droed a’r boblogaeth yn gyffredinol tuag at yr achos yma, achos fe fydd barn y cefnogwyr yn allweddol i unrhyw dîm sy’n ystyried ei alw nôl.

Mae rheolwr Cymru Chris Coleman yn gallu fforddio i osgoi meddwl am y peth ar hyn o bryd wrth gwrs – hyd yn oed os ydi Ched Evans yn arwyddo i glwb, byddai angen iddo sgorio’n gyson am fisoedd i haeddu lle gyda’r tîm cenedlaethol.

Dw i’n siŵr fod Coleman yn falch o allu rhoi’ch achos yma i un ochr am rŵan, felly, tra bod y drafodaeth danbaid yn parhau.