Cafodd Caerlŷr ddechrau gwych i’w tymor Ewropeaidd yng Nghwpan y Pencampwyr ddydd Sadwrn wrth drechu Ulster 25-18, gyda’r Cymro Owen Williams yn llythrennol yn ganolog i’r cyfan.
Symudodd Williams nôl i safle’r canolwr ar gyfer y gêm, ond parhau â’i ddyletswyddau cicio, gan lwyddo i sgorio cais yn ogystal â throsi un a chicio dwy gic gosb i helpu’i dîm i’r fuddugoliaeth.
Ennill dros y penwythnos wnaeth Toulon hefyd diolch yn rhannol i gicio cywir Leigh Halfpenny, wrth iddyn nhw drechu’r Scarlets gartref o 28-18.
Ciciodd Halfpenny ddau drosiad a thair cic gosb wrth i’r Ffrancwyr orfod brwydro’n galed i sicrhau’r pwyntiau.
Roedd Jamie Roberts yn fuddugol dros George North wrth i Racing Metro drechu Northampton 20-11 yng ngêm agoriadol eu grŵp nhw, gyda Mike Phillips a Luke Charteris yn cynorthwyo o’r fainc i’r enillwyr.
Rhys Gill oedd y Cymro arall oedd yn fuddugol yng Nghwpan y Pencampwyr wrth i Saracens guro Clermont, oedd heb Jonathan Davies, o 30-23.
Colli wnaeth Bradley Davies a Wasps yn erbyn Leinster o 25-20, a cholli o drwch blewyn wnaeth Eifion Lewis-Roberts, Marc Jones a Jonathan Mills gyda Sale hefyd wrth i Munster eu trechu 26-27.
Doedd dim amheuaeth am ganlyniad Gavin Henson, Dominic Day a Paul James gyda Chaerfaddon, fodd bynnag, wrth i Glasgow eu trechu 37-10.
Yng Nghwpan Sialens Ewrop fe fethodd Darren Allinson allan ar yr hwyl wrth i Wyddelod Llundain sgorio deg cais yn erbyn Rovigo ac ennill o 70-14, gyda’r Cymro’n dod oddi ar y fainc yn unig.
Dechreuodd Ceri Sweeney, Adam Hughes a Tom James i Gaerwysg wrth iddyn nhw golli’u gêm agoriadol nhw o 30-24 i ffwrdd yn Bayonne.
Colli oedd hanes Cymry Llundain hefyd i ffwrdd yn Ffrainc, wrth i Lyon ennill 28-18 yn erbyn tîm oedd yn cynnwys Nic Reynolds, Rob Lewis a James Lewis.
Chwaraeodd Warren Fury i Newcastle nos Wener wrth iddyn nhw ennill yn gyfforddus o 43-19 yn erbyn Bucuresti, ac roedd hi’n fuddugoliaeth hyd yn oed yn haws i Gaerloyw nos Iau wrth iddyn nhw drechu Brive 55-0.
Sgoriodd James Hook un cais i Gaerloyw, ac roedd yn un o bedwar chwaraewr a giciodd drosiad hefyd, wrth i’w dîm ef a Richard Hibbard gael y gorau o griw Kieran Murphy.
Seren yr wythnos – Owen Williams. Parhau i serennu i Gaerlŷr wrth iddyn nhw gipio buddugoliaeth allweddol.
Siom yr wythnos – George North. Siom wrth i’w dîm fethu â hyd yn oed cael pwynt bonws ym Mharis.