Ramsey'n dychwelyd i Arsenal dros y penwythnos
Dyma’n Cip ar y Cymry cyntaf ni ers y ddwy gêm ryngwladol ddiwethaf – felly, wrth gwrs, fe wnawn ni ddechrau drwy gael golwg ar anafiadau’r rhai fu’n absennol!

Roedd hi’n rhywfaint o syndod gweld Aaron Ramsey nôl mor fuan wrth iddo ddod oddi ar y fainc i Arsenal yn erbyn Hull, ar ôl ofnau y gallai fethu’r trip i Wlad Belg gyda Chymru fis nesaf gydag anaf i linyn y gâr.

Llwyddodd ei dîm i frwydro nôl am ganlyniad cyfartal 2-2 gyda Hull, oedd â James Chester yn yr amddiffyn.

Fe ddaeth Joe Allen yn ôl yn gynt na’r disgwyl hefyd, gan ddod oddi ar y fainc a chael ei ganmol gan ei reolwr wrth i Lerpwl gipio’r pwyntiau’n hwyr yn erbyn QPR.

Dim syndod o weld James Collins yn atgyfodi o’i wely angau i chwarae i West Ham, ar ôl gorfod tynnu nôl o garfan Cymru unwaith eto’n ddiweddar – ennill 3-1 wnaeth ei dîm yn erbyn Burnley.

Roedd Paul Dummett hefyd yn holliach ar ôl anaf i gymryd ei le yn amddiffyn Newcastle, wrth iddyn nhw gipio’u buddugoliaeth gyntaf o’r tymor a chadw llechen lân wrth guro Caerlŷr 1-0.

Yng ngweddill Uwch Gynghrair Lloegr colli 2-1 oedd hanes Ashley Williams a Neil Taylor gydag Abertawe yn erbyn Stoke, a Joe Ledley gyda Crystal Palace yn erbyn Chelsea.

Roedd rhai o Gymry’r Bencampwriaeth hefyd yn holliach ar ôl anafiadau, gyda Lee Evans yn chwarae gêm lawn ochr yn ochr â Dave Edwards wrth i Wolves ildio mantais o dair gôl i orffen yn gyfartal 3-3 â Millwall.

Fe ddaeth David Vaughan oddi ar y fainc i Nottingham Forest hefyd wrth ddychwelyd o anaf, ond colli 2-1 i Gaerdydd oedd eu hanes nhw.

Dechreuodd Chris Gunter, Jake Taylor a Hal Robson-Kanu i Reading wrth iddyn nhw golli 3-0 i Derby, gêm oedd yn agosach nag yr oedd y canlyniad yn ei awgrymu.

Colli 1-0 i Bolton oedd hanes David Cotterill gyda Birmingham, ac fe ddaeth Craig Davies oddi ar y fainc ac ennill cic o’r smotyn i’r ymwelwyr – yn anffodus, fe fethodd y cyfle i ddyblu mantais ei dîm wrth waldio’r bêl ymhell dros y trawst.

Llwyddodd Jonathan Williams i chwarae 79 munud i Ipswich ar ôl cael ei gicio’n ddu las i Gymru yn erbyn Bosnia a gorfod methu gêm Cyprus, ac yng ngemau eraill y gynghrair fe chwaraeodd Rhoys Wiggins, Adam Henley a Craig Morgan.

Yng Nghynghrair Un fe chwaraeodd Lewin Nyatanga, Joe Walsh, Gwion Edwards, Josh Pritchard a Wes Burns, gydag Edwards yn sgorio ond ei dîm Crawley’n colli 5-3 i Notts County, tra yn yr Alban fe chwaraeodd Ash Taylor, Adam Matthews a Kyle Letheren.

Ac mi ydach chi’n iawn, mae ‘na un ar goll – beth oedd hanes Gareth Bale y penwythnos yma? Wel, eistedd ar y fainc drwy gydol y gêm, wrth i Real Madrid roi cweir o 5-0 i Levante.

Seren yr wythnos – Aaron Ramsey. Da’i weld nôl o anaf, jyst gobeithio nad ydi Arsenal wedi’i frysio nôl yn rhy sydyn.

Siom yr wythnos – Gareth Bale. Roedd sôn yn gynharach yn y tymor nad oedd cefnogwyr Real yn hapus â’i berfformiadau, ydi o nawr wedi colli’i le?