Mae Undeb Rygbi Cymru wedi cyhoeddi eu bod yn gobeithio penodi dynes i lenwi un o ddwy swydd cyfarwyddwr annibynnol newydd fydd ar eu Bwrdd.
Fe benderfynodd yr Undeb hefyd atal unrhyw un rhag bod yn aelod o’r Bwrdd fel cyfarwyddwr am fwy na 12 mlynedd, yn dilyn eu cyfarfod cyffredinol blynyddol ym Mhort Talbot.
Y cyfarfod hwn oedd un olaf David Pickering fel cadeirydd, ar ôl iddo beidio â chael ei ailethol i’r swydd.
Mae’r Undeb yn gobeithio penodi cyfarwyddwyr newydd yn ystod y misoedd nesaf fydd yn cymryd eu lle ar ddechrau 2015.
Fe benderfynodd yr Undeb hefyd ar rywfaint o fân newidiadau i reolau disgyblu’r gêm yng Nghymru, ac maen nhw hefyd yn parhau i obeithio clirio dyledion adeiladu Stadiwm y Mileniwm erbyn 2021.
“Mae’r clybiau wedi pleidleisio dros newidiadau fydd yn gwella llywodraethiant ein Hundeb,” meddai prif weithredwr URC Roger Lewis.
“Mae rygbi wedi newid wrth i ni symud i’r oes broffesiynol ac mae’n rhaid addasu er mwyn rheoli’n esblygiad ni fel corff rheoli.
“Gallwn nawr ddod a’r arbenigedd o du allan i rygbi er mwyn gwneud yn siŵr fod ein penderfyniadau strategol a gweithredol yn cael eu profi’n iawn.
“Fe fydd y terfyn amser ar ein cyfarwyddwyr hefyd yn helpu annog syniadau a golwg newydd ar ein strwythurau rheoli.
“Fe allwn nawr geisio penodi dynes i Fwrdd URC am y tro cyntaf, rhywbeth rydyn ni i gyd yn cytuno sydd yn flaenoriaeth i’r gêm.”