Lionel Messi
Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru mewn trafodaethau â’r Ariannin i geisio cynnal dwy gêm gyfeillgar yn 2015, fel rhan o ddathliadau 150 mlynedd ers sefydlu’r Wladfa.

Fe allai hynny weld dau o sêr pêl-droed mwyaf y byd, Gareth Bale a Lionel Messi, yn mynd benben am y tro cyntaf ar y llwyfan rhyngwladol.

Y tebygolrwydd yw y byddai’r ddwy wlad yn awyddus i gynnal un gêm gartref yr un, gan olygu y gallai Cymru chwarae gêm ym Mhatagonia.

Nôl yn 2006 fe chwaraeodd tîm rygbi Cymru gêm ym Mhorth Madryn ym Mhatagonia fel rhan o daith yn yr Ariannin, gan golli 27-25.

Y tro diwethaf i dîm pêl-droed Cymru herio’r Ariannin oedd nôl yn 2002 yn Stadiwm y Mileniwm, gyda’r gêm yn gorffen 1-1 diolch i gôl Craig Bellamy i’r tîm cartref ac yna Julio Cruz i’r ymwelwyr.

Ac fe fyddai cefnogwyr yn siŵr o edrych ymlaen at y posibilrwydd o allu gwylio Bale a Messi, sydd yn herio’i gilydd yn gyson yng nghrysau Real Madrid a Barcelona, yn dod wyneb yn wyneb am y tro cyntaf gyda’u gwledydd.

Penbleth dyddiadau

Fe allai Cymru wynebu penbleth o ran ceisio trefnu dwy gêm gyfeillgar, fodd bynnag, ar ôl newidiadau diweddar i’r calendr rhyngwladol.

Dim ond pedwar lle gwag ar gyfer gemau cyfeillgar sydd ganddyn nhw yn 2015 oherwydd gemau rhagbrofol Ewro 2016 – un ym mis Mawrth, mis Mehefin, ac yna dwy ym mis Tachwedd.

Fodd bynnag, fe fyddai’n rhaid chwarae unrhyw gêm ym mis Mawrth dridiau ar ôl gêm ragbrofol yn erbyn Israel, tra bod mis Tachwedd wedi’i neilltuo ar gyfer gemau ail gyfle Ewro 2016.

Dyw’r Ariannin ddim yn debygol o allu chwarae yn erbyn Cymru ym mis Mehefin 2015 gan fod twrnament cyfandirol y Copa America’n cael ei gynnal yn Chile bryd hynny.

Mae’n bosib y gallan nhw chwarae reit ar ddechrau Mehefin, neu ar ddiwedd mis Mai, ond yn ddelfrydol fe fyddai Chris Coleman eisiau osgoi cael gêm gyfeillgar all amharu ar ei baratoadau cyn gêm ragbrofol Cymru gartref yn erbyn Gwlad Belg ar 12 Mehefin.