Mae hi’n “gwbl annerbyniol” bod plant tlotaf yng Nghymru yn cael cam dybryd gan Lywodraeth Cymru, yn ôl yr Aelod Cynulliad Aled Roberts.
Daw ei sylw wedi i adroddiad ‘Cyflwr y genedl’ gan y Comisiwn Symudedd Cymdeithasol a Thlodi Plant, fu’n edrych ar dlodi ymysg plant ym Mhrydain, gael ei gyhoeddi heddiw.
Dangosodd yr adroddiad mai 26% o blant sy’n derbyn cinio am ddim yng Nghymru sy’n llwyddo i gael pum gradd TGAU da, o’i gymharu â 38% o blant o gefndiroedd tebyg yn Lloegr.
Yn ogystal, gwelwyd mai Cymru sydd a’r gyfradd uchaf ond un o dlodi plant ac mae’r nifer o blant sy’n byw mewn cartref “incwm isel” yn amrywio o 12.5% yn Sir Fynwy i 29.5% ym Mlaenau Gwent.
‘Methiant’
“Mae’r adroddiad yn adlewyrchu maint methiannau Llywodraeth Cymru ac yn pwysleisio unwaith eto mai ein cymunedau tlotaf sy’n dioddef fwyaf,” meddai Aled Roberts, AC y Democratiaid Rhyddfrydol.
“Mae disgyblion yng Nghymru yn tanberfformio o’i gymharu â Lloegr a dyw hynny ddim digon da.
“Dangosodd yr adroddiad nad yw plant tair oed mewn ardaloedd tlawd yn gwneud y cynnydd disgwyliedig – mae’n gwbl annerbyniol bod plentyn yn cael cam mor ifanc â hynny.”
“Tra bod bwriad rhaglen Dechrau’n Deg yn cael ei groesawu , mae’r adroddiad yma yn adleisio ein pryderon bod teuluoedd tlawd sydd ddim yn byw mewn ardaloedd difreintiedig yn cael bod yn rhan o’r cynllun.
“Mae’n hen bryd i’r Llywodraeth ystyried y methiant yma yn y cynllun.”
Ewrop
Ychwanegodd Mark Isherwood ar ran y Ceidwadwyr Cymreig fod yr adroddiad yn adlewyrchu’r “realiti i gymunedau difreintiedig Cymru”:
“Dylai bob plentyn gael yr un mynediad i addysg ond, o dan Lywodraeth Cymru, mae tlodi yn rhwystro hyn,” meddai.
“Mae Cymru yn parhau i fod yn un o ardaloedd tlotaf Ewrop ac mae’r adroddiad yma yn dangos yr effaith mae methiannau Llywodraeth Cymru yn ei gael ar blant.
“Mae’n rhaid i weinidogion ddechrau mynd i’r afael a’r sefyllfa a chreu mwy o swyddi yn ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru.”
Mae golwg360 wedi cysylltu â Llywodraeth Cymru am ymateb.