Bryn Parry Jones
Mae cynghorydd wedi cyhuddo Cyngor Sir Benfro o drafod pecyn diswyddo’r prif weithredwr Bryn Parry Jones “y tu ôl i ddrysau caeedig” ac o gytuno ar y swm fyddai’n cael ei dalu iddo cyn i’r mater fynd o flaen y pwyllgor disgyblu.

Penderfynwyd rhoi dros £330,000 i Bryn Parry Jones adael ei swydd ac fe fydd yn gadael ddiwedd y mis.

Ar ei wefan, mae’r cynghorydd Jacob Williams yn honni y bydd cyfanswm o £332,000 yn cael ei roi i’r prif weithredwr – sy’n cynnwys tal diswyddo o dros £226,000, tâl tri mis o waith o £48,000, a bron i £17,000 mewn iawndal.

Mae Swyddfa Archwilio Cymru wedi cadarnhau eu bod nhw’n astudio manylion pecyn diswyddo Prif Weithredwr Sir Benfro, Bryn Parry Jones.

‘Amheus’

“Fe ddaeth i’r amlwg fod y pecyn gwerth £332,000 wedi cael ei bennu cyn i’r pwyllgor disgyblu bleidleisio tros gyfeirio honiadau am ymddygiad y prif weithredwr at y DIP (person annibynnol dynodedig),” meddai Jacob Williams ar ei wefan.

“Yn ogystal, cadarnhawyd i’r cynghorwyr nad oedd ail-drafod wedi bod gyda Mr Parry-Jones na neb oedd yn gweithredu ar ei ran a bod y cytundeb felly wedi aros yr un fath…

“Rwyf wedi bod yn meddwl am y sefyllfa ac, ar ôl bod yn amheus o’r cychwyn, rwy’n credu’n gryf fod ymchwiliad y pwyllgor disgyblu i ymddygiad y prif weithredwr wedi cael ei drefnu … heb unrhyw fwriad i gyrraedd ei derfyn.

“Yn fy marn i roedd yn ffordd o gelu’r gwir wnaeth … ganiatáu i drafodaethau ddigwydd y tu ôl i ddrysau caeedig er mwyn cael y pecyn ariannol gorau i Mr Parry-Jones, doed a ddelo.”

Mae arweinydd Cyngor Sir Benfro, Jamie Adams, wedi ymateb trwy ddweud: “Dylai holl aelodau’r awdurdod fod yn ymwybodol o’u cyfrifoldebau sy’n dod o dan gôd ymddygiad y cyngor.”

Y cefndir

Roedd Heddlu Swydd Gaerloyw wedi bod yn ymchwilio i weithredoedd ariannol Bryn Parry Jones, ond fe ddaethon nhw i’r casgliad na ddylai wynebu achos llys am ei ran yn derbyn taliad pensiwn di-dreth yn hytrach na chyflog.

Roedd y pwyllgor disgyblu wedi ei sefydlu ym mis Medi i ymchwilio i’r honiadau yn erbyn y prif weithredwr, wedi i aelodau basio cynnig o ddiffyg hyder yn ei erbyn a hynny’n annisgwyl yn cynnwys llawer o’r cynghorwyr annibynnol sy’n rheoli’r cyngor.
Bryd hynny, roedd y Cyngorydd Adams hefyd wedi cynnig sefydlu’r panel disgyblu, gydag amod y byddai ef yn trafod gyda’r Prif Weithredwr.