Tiffany Danielle Hughes
Dywed Heddlu Gogledd Cymru eu bod nhw bellach wedi dod o hyd i ferch 15 oed o Fangor yn ddiogel.
Nid oedd Tiffany Danielle Hughes wedi cael ei gweld ers iddi adael ei chartref yn y ddinas ddydd Sadwrn.
Mae’r heddlu wedi diolch i bawb am eu cymorth i ddod o hyd iddi.