Mae achosion sy’n ymchwilio i honiadau o bedoffilia yn cael eu gadael heb eu datrys am fwy na dwy flynedd wedi i’r wybodaeth ddod i law swyddogion am y tro cyntaf.

Dangosodd ffigyrau gan asiantaeth newyddion y Press Association bod 271 o bobol yn y DU sy’n cael eu hamau o fod yn bedoffiliaid yn parhau i fod yn destun ymchwiliad ers mis Gorffennaf 2012.

Ers hynny, mae pedwar achos posib wedi’u cyfeirio at Heddlu Dyfed Powys, ac maen nhw wedi cyhuddo un person ac yn parhau gydag un ymchwiliad, tra bo 12 achos posib wedi’u cyfeirio at Heddlu Gogledd Cymru sy’n parhau i ymchwilio i bob un o’r 12 achos.

Mae’r achosion yn rhan o Operation Spade, gyda gwybodaeth yn cael ei gyfeirio at swyddogion o’r Ganolfan Camfanteisio ar Blant a’u Diogelu Ar-lein (CEOP) ym Mhrydain gan yr heddlu yng Nghanada.

Gareth Williams

Yng Nghymru, datgelwyd yn ddiweddar na chafodd gwybodaeth ynglŷn â’r Dirprwy Brifathro Gareth Williams, sydd wedi ei garcharu am sbecian ar blant ac o fod â delweddau anweddus yn ei feddiant, ei basio ymlaen i’r heddlu priodol am fwy na blwyddyn a hanner wedi iddo ddod i’r fei am y tro cyntaf.

Roedd CEOP yn ymwybodol fod Gareth Williams, 47, wedi prynu lluniau anweddus dros y we 19 mis cyn i Heddlu De Cymru ddechrau eu hymchwiliad.

Fe wnaeth Comisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu (IPCC) gadarnhau bod y mater wedi cael ei gyfeirio atyn nhw a’u bod yn ystyried cynnal ymchwiliad.

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Dyfed Powys ei bod yn “amhriodol” eu bod yn gwneud sylw ar y mater.