Ysbyty Llwynhelyg, Hwlffordd
O heddiw ymlaen, ni fydd gofal i blant yn cael ei gynnig gyda’r nos yn Ysbyty Llwynhelyg, Hwlffordd – er gwaethaf gwrthwynebiad chwyrn yn lleol.

Mae’n golygu y bydd yn rhaid i blant sydd angen triniaeth feddygol deithio tua 30 milltir yn ychwanegol i Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin er mwyn cael gofal yn ystod oriau’r nos.

Fe wnaeth dros 1,000 o bobol brotestio yn erbyn penderfyniad Bwrdd Iechyd Hywel Dda i ad-drefnu gwasanaethau – gan gynnwys symud yr uned fabanod o Ysbyty Llwynhelyg i Glangwili – yn y gwanwyn.

Mae’r bwrdd iechyd yn dweud fod y newidiadau i ganoli gwasanaethau yn “ddiogel” ac y bydden nhw’n daprau gwasanaethau “o safon uchel”.

Ond mae ymgyrchwyr yn pryderu y gallai’r daith o Sir Benfro i Gaerfyrddin beryglu bywydau mewn achosion brys.

‘Datblygiad’

Dywed Dr Simon Fountain-Polley, Pediatregydd Ymgynghorol ac Arweinydd Clinigol Pediatreg: “Bydd y newidiadau hyn yn ein galluogi i ddatblygu ein gwasanaethau ar gyfer plant a phobol ifanc ein hardal.!
O heddiw ymlaen, bydd yr uned asesu bediatrig yn Ysbyty Llwynhelyg ar agor rhwng 10:00yb a 10:00yh, gyda’r gofal yn cael ei roi gan feddygon pediatrig, nyrsys plant a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill, yn ôl y bwrdd iechyd.
Ychwanegodd Dr Fountain-Polley: “Gellir trin llawer o blant yn y modd hwn ac ni fydd angen iddyn nhw aros yn yr ysbyty dros nos. Gall hyn gynnwys plant â phoen sydd wedi dechrau’n sydyn, afiechyd, tymheredd neu haint.
“Byddwn hefyd yn medru trin plant a phobl ifanc sydd angen prawf gwaed, pelydr-x neu sgan yn Ysbyty Llwynhelyg.”
Mae’r bwrdd iechyd yn gofyn i drigolion Sir Benfro ffonio 999 yn hytrach na mynd yn syth i’r uned frys os yw eu plentyn yn sâl.
“Bydd y parafeddygon yn gwybod ble fydd orau i gymryd eich plentyn er mwyn iddo gael y driniaeth sydd ei hangen cyn gynted â phosib,” meddai’r bwrdd.