Fe fydd gweithwyr Trenau Arriva Cymru yn cynnal streic arall ynglŷn â diswyddiad dau aelod o Undeb y Gweithwyr Rheilffyrdd (RMT).
Dywedodd llefarydd ar ran yr undeb y bydd y streic 48 awr o ddydd Iau yn effeithio gwasanaethau yng ngogledd Cymru.
Mae’n dilyn streic 24 yn gynharach y mis hwn/
Mae’r undeb yn gwrthwynebu bod dau weithiwr wedi cael eu diswyddo am eu bod wedi methu a dod i’r gwaith oherwydd salwch.
Dywedodd llefarydd ar ran Arriva Cymru cyn y streic ddiwethaf: “Rhwng y ddau weithiwr, fe gymron nhw 890 o ddyddiau i ffwrdd yn sâl.
“Fel cwmni, mae’n rhaid i ni gael cydbwysedd rhwng darparu gwasanaeth dibynadwy i gwsmeriaid a sicrhau nad yw trenau’n cael eu canslo.”