Mae ymladdwyr tân wedi bod yn brwydro fflamau yng Nghwmcarn, Gwent, ers oriau mân y bore.

Fe gafodd diffoddwyr o Aberbargoed, Abercarn a Rhisga eu galw i stad ddiwydiannol Chapel Farm am 4.30yb heddiw.

Roedd 70 tunnell o ddarnau o haearn ar dân yno. Erbyn hyn, mae’r tân wedi ei ddiffodd ond mae criw Aberbargoed yn dal yno yn gwneud y safle’n ddiogel.

Does yna ddim adroddiadau o anafiadau.