Y diweddar Stuart Gallacher
Mae cyn-bennaeth Rygbi Ranbarthol Cymru, Stuart Gallacher o Llanelli wedi marw.
Roedd Gallacher, 68, hefyd yn gyn-brif weithredwr clwb rygbi Llanelli a’r Scarlets ac yn aelod o fwrdd Cwpan Rygbi Ewropeaidd am 16 mlynedd.
Yn eu gêm yn erbyn Toulon heddiw, bydd chwaraewyr y Scarlets yn gwisgo bandiau du o gwmpas eu breichiau i gofio amdano.
Cafodd munud o dawelwch ei gynnal yng nghyfarfod blynyddol Undeb Rygbi Cymru ym Mhort Talbot a chyn gêm y Gweilch yn erbyn Treviso.
Teyrnged
Mae prif weithredwr Undeb Rygbi Cymru, Roger Lewis wedi arwain y teyrngedau i Gallacher.
Meddai: “Heblaw am ei deulu, fe roddodd Stuart ei fywyd i’r gêm ac mae ei gyfraniad ar hyd y blynyddoedd yn deyrnged deilwng i’w ymroddiad a’r ffyddlondeb.”
Ychwanegodd Llywydd yr Undeb Rygbi, Dennis Gethin: “Roed Stuart yn ffrind a gwnaeth gyfraniad anhygoel at ein gêm.
“Roedd hefyd yn ddyn teulu mawr a bydd ei golled yn cael ei deimlo’n frwd, nid yn unig gan ei berthnasau ond pawb oedd yn agos ato.
“Mae’n anghyffredin i unrhyw un i gyflawni cymaint ar ac oddi ar y cae o fewn ein gêm ond roedd Stuart yn unigolyn eithriadol.”
Gyrfa ddisglair
Chwaraeodd Gallacher fel clo, gan ddechrau ei yrfa rygbi yn Ysgol Ramadeg Llanelli lle enillodd gapiau dros dîm bechgyn Cymru.
Aeth ymlaen i chwarae i glwb Felinfoel cyn ymuno a Llanelli. Enillodd ei unig gap dros dîm llawn Cymru yn erbyn Ffrainc ym mis Ebrill 1970.
Yn Awst 1970, teithiodd Gallacher i Ogledd Lloegr i fyd rygbi XIII gan ymuno â Bradford Northern, cyn symud ymlaen i Keighley yn 1975. Chwaraeodd i dîm rygbi XIII Cymru mewn cwpan y byd.
Cyn troi at fyd rygbi XIII roedd Gallacher yn blismon ac yna, wedi ymddeol o’r gêm, daeth yn ddyn busnes yn gwerthu carpedi. Daeth yn ôl i Lanelli i agor siop carpedi cyn mynd i mewn i ochr weinyddol y gêm.