Ched Evans
Mae’r chwaraewr pêl-droed, Ched Evans, wedi dweud fod ganddo “gywilydd” am dwyllo’i gariad, ond mae’n dal i wadu ei fod wedi treisio merch.
Yn ôl papur y Sunday Mirror, roedd blaenwr Sheffield United a Chymru wedi siarad am y drosedd ychydig cyn cael ei ryddhau’ o’r carchar ar ôl treulio hanner ei ddedfryd o bum mlynedd am dreisio.
Mae erthygl yn y papur heddiw’n dweud ei fod wedi defnyddio’r gair “anfaddeuol” am dwyllo’i gariad ond ei fod yn mynnu bod yr eneth wedi “cydsynio” i gael rhyw.
Y dadlau
Mae’r dadlau’n parhau am ddyfodol y peldroediwr a gafodd ei garcharu yn 20`2 yn sgil y digwyddiad yn Y Rhyl.
Roedd y llys wedi penderfynu bod y ferch yn rhy feddw i allu rhoi caniatâd i ryw – chwaraewr pêl-droed arall oedd wedi galw Ched Evans draw i’r gwesty lle’r oedd hi ac roedd y ddau ddyn wedi cael rhyw gyda hi.
Er bod rhai o gefnogwyr Sheffield United yn gofyn i’r clwb ailgylflogi Ched Evans mae tua 150,000 o bobol wedi arwyddo deiseb yn erbyn.
‘Sarhad’
Yn yr un erthygl bapur newydd, mae Katie Russell, llefarydd ar ran elusen Rape Crisis, yn dweud bod sylwadau Ched Evans yn niweidiol ac yn sarhad ar y ferch.
Fe fydd Comisiwn Adolygu Achosion Troseddol yn dechrau ystyried achos Ched Evans ymhen rhai wythnosau; roedd barnwyr wedi gwrthod yr hawl iddo apelio.