Stade Francais 22–38 Dreigiau Casnewydd Gwent
Cafodd y Dreigiau’r dechrau perffaith i Gwpan Sialens Ewrop gyda buddugoliaeth dros Stade Francais yn y Stade Jean Bouin nos Sadwrn.
Nid yw tîm Lyn Jones wedi cael y dechrau gorau i’r tymor yn y Pro12 ond roeddynt ar dân yn eu gêm gyntaf yn y gystadleuaeth Ewropeaidd newydd, gan gipio buddugoliaeth a phwynt bonws oddi ar y Ffrancwyr.
Stade a gafodd y gorau o’r 25 munud cyntaf ac roeddynt 12-3 ar y blaen diolch i bedair cic gosb o droed Vincent Mallet.
Ond gorffennodd y Cymry’r hanner cyntaf yn gryf ac roeddynt yn gyfartal erbyn yr egwyl diolch i geisiau’r mewnwr, Richie Rees, a’r bachwr, Rhys M Thomas. 15 pwynt yr un ar hanner amser.
Yn rhyfeddol, aeth yr ymwelwyr o Gymru ddeg pwynt ar y blaen ar ddechrau’r ail hanner gyda chais i’r asgellwr, Hallam Amos, a throsiad a chic gosb Angus O’Brien.
Tarodd y tîm cartref yn ôl gyda chais Herman Meyer Bosman ar yr awr ond roedd y Dreigiau’n ôl chwe phwynt ar y blaen bron yn syth diolch i gic gosb arall o droed O’Brien.
Ychwanegodd y maswr un arall bum munud o’r diwedd cyn gorffen y gêm gyda deunaw pwynt ar ôl trosi cais hwyr Nic Cudd, cais a sicrhaodd bwynt bonws yn ogystal â buddugoliaeth i’r Dreigiau.
.
Stade Francais
Cais: Herman Meyer Bosman 60’
Trosiad: Morné Steyn 60’
Ciciau Cosb: Vincent Mallet 8’, 17’, 22’, 26’, 37’
.
Dreigiau
Ceisiau: Richie Rees 28’, Rhys M Thomas 32’, Hallam Thomas 48’, Nic Cudd 78’
Trosiadau: Angus O’Brien 32’, 48’, 78’
Ciciau Cosb: Angus O’Brien 4’, 57’, 63’, 75’
Cerdyn Melyn: Boris Stankovich 27’