Lincoln 1–1 Wrecsam

Mae Wrecsam yn dychwelyd o Lincoln gyda phwynt yn dilyn gêm gyfartal gôl yr un ar Sincil Bank brynhawn Sadwrn.

Rhoddodd Elliott Durrell y Cymry ar y blaen yn yr hanner cyntaf ond bu rhaid iddynt fodloni ar bwynt yn unig yn dilyn gôl hwyr Alan Power i’r tîm cartref.

Deg munud o’r hanner cyntaf oedd i fynd pan rwydodd Durrell yn dilyn gwaith creu Andy Bishop ac roedd y Dreigiau ar y blaen ar yr egwyl.

Cafodd Wes York a Connor Jennings gyfleoedd i ddyblu’r fantais wedi hynny ond gyda dim ond gôl ynddi roedd gobaith i Lincoln o hyd.

Yna, saith munud o’r diwedd fe gafodd Andy Coughlin yn y gôl i Wrecsam ei guro o’r diwedd wrth i’r eilydd, Power, gipio pwynt i’w dîm.

Mae Wrecsam, o ganlyniad, yn disgyn i’r degfed safle yn nhabl Cyngres Vanarama.

.

Lincoln

Tîm: Townsend, Miller, Brown, Anderson, Audel (Power 58′), Newton, Mendy, Nolan, Burrow, Sam-Yorke (Marshall 58′), Tomlinson

Gôl: Power 83’

Cardiau Melyn: Sam-Yorke 39’, Anderson 56’, Newton 90’

.

Wrecsam

Tîm: Coughlin, Carrington, Smith, Hudson, Ashton, Durrell (Hunt 86′), Harris, Clarke, York, Jennings, Bishop

Gôl: Durrell 35’

Cardiau Melyn: Hudson 45’, Ashton 73’

.

Torf: 2,360