Dagenham a Redbridge 0–1 Casnewydd
Cipiodd Casnewydd y tri phwynt yn erbyn Dagenham a Redbridge ar Ffordd Victoria brynhawn Sadwrn diolch i gôl hwyr Chris Zebroski yn y gêm Ail Adran.
Aeth y tîm cartref lawr i ddeg dyn wedi cerdyn coch Abu Ogogo ddeg munud o’r diwedd ac fe fanteisiodd yr Alltudion yn llawn wrth gipio’r fuddugoliaeth ym munud olaf y naw deg.
Roedd Casnewydd braidd yn ffodus i fod yn y gêm o hyd yn y munudau olaf gan i Jamie Cureton daro’r trawst ddwywaith i’r tîm cartref.
Ond rhoddwyd y gêm ar blât i’r Cymry ddeg munud o’r diwedd pan fu rhaid i Ogogo fynd am wrthdaro ag Andy Minshull.
Fe adawodd Casnewydd hi’n hwyr i fanteisio ond fe wnaethant hynny yn y diwedd pan beniodd Zebroski groesiad Andy Sandell i gefn y rhwyd.
Mae’r fuddugoliaeth yn codi Casnewydd i’r nawfed safle yn nhabl yr Ail Adran.
.
Dagenham a Redbridge
Tîm: Cousins,Batt, Doe, Saah, Connors, Porter (Boucaud 82′), Ogogo, Labadie (Bingham 46′), Hemmings (Cureton 71′), Chambers, Yusuff
Cardiau Melyn: Chambers 30’, Saah 86’
Cerdyn Coch: Ogogo 80’
.
Casnewydd
Tîm: Day, Klukowski, Yakubu (Feely 54′), Jones, Hughes, Sandell, Loveridge (Flynn 62′), Minshull, Byrne, Pigott (O’Connor 71′), Zebroski
Gôl: Zebroski 90’
Cardiau Melyn: Sandell 59’, Minshull 79’
.
Torf: 1,654