Bryn Parry Jones
Mae ymgeisydd etholiadol Llafur ym Mhreseli Penfro, Paul Miller yn siomedig gyda’r penderfyniad i roi £330,000 i Brif Weithredwr Cyngor Sir Penfro adael ei swydd.

Cafodd y penderfyniad ei wneud mewn cyfarfod yn Hwlffordd ddoe, ac fe fydd Bryn Parry Jones yn gadael ddiwedd y mis.

Roedd Heddlu Swydd Gaerloyw wedi bod yn ymchwilio i weithredoedd ariannol Bryn Parry Jones, ond fe ddaethon nhw i’r casgliad nad oedd wedi torri’r gyfraith trwy dderbyn taliad pensiwn di-dreth yn hytrach na chyflog.

Mewn datganiad, dywedodd Paul Miller ei fod yn “falch fod pobol Sir Benfro wedi dwyn pwysau ar yr elît sy’n rheoli’r cyngor”.

Ychwanegodd: “Doedden nhw [y cyngor] ddim am ymwahanu oddi wrth y Prif Weithredwr, fe gawson nhw eu gorfodi gan y bobol ac rwyf wrth fy modd i weld arwyddion bod democratiaeth go iawn yn dychwelyd i Sir Benfro. Hoffwn ddiolch i’r bobol am eu cefnogaeth.”

Ond roedd Miller yn “siomedig dros ben” ynghylch penderfyniad y cyngor i roi £330,000 i Bryn Parry-Jones.

“Wedi dweud hynny, rwy’n hynod siomedig ynghylch lefel y setliad sydd yn anghymesur â bywydau’r bobol rydyn ni’n eu cynrychioli (a does gennym ni ddim hawl i adrodd amdano’n gyhoeddus).

“Roedd yna gamau disgyblu ar y gweill ac fe ddylai’r broses honno fod wedi gallu dod i’w therfyn.”