Kath Jones (chwith) yw cymeriad mwyaf poblogaidd Pobol y Cwm
Kath Jones sydd wedi dod i’r brig fel hoff gymeriad gwylwyr Pobol y Cwm dros y 40 mlynedd ddiwethaf, yn ôl pôl piniwn gan golwg360 ac S4C.
Mewn pleidlais agos iawn daeth cymeriad Kath, sy’n cael ei hactio gan Siw Hughes ac sydd newydd ddychwelyd i Gwmderi’n ddiweddar, i’r brig gyda 15.2% o’r bleidlais.
Yn ail roedd Jean McGurk Morris neu Mrs Mac, cymeriad Iola Gregory, a gafodd 14.6% o’r bleidlais.
Yn drydydd roedd Dic ‘Deryn’ Ashurst, a chwaraewyd gan Ifan Dafydd, gydag 11.7%.
Fe ddewisodd S4C ddeg o’r hoff gymeriadau dros y ddeugain mlynedd diwethaf ar gyfer y pôl, oedd hefyd yn cynnwys Maggie ‘Post’ Tushingham, Reg Harries, Mark Jones, Hywel Llywelyn, Dani Thomas, Meic Pierce a Gina Phillips.
Gyda chymaint o gymeriadau wedi mynd a dod o Gwmderi dros y blynyddoedd, fodd bynnag, roedd hi’n anochel y byddai rhai o’r cannoedd a bleidleisiodd yn teimlo nad oedd eu hoff gymeriad nhw wedi cyrraedd y rhestr fer honno.
Fe bleidleisiodd 19% o bobl dros ‘Rhywun Arall’ – arwydd efallai fod cymaint mwy o gymeriadau na’r deg hynny wedi llwyddo i ddiddanu a chydio yn nychymyg gwylwyr Cymru ers iddi ymddangos ar y sgrin am y tro cyntaf yn 1974.
Mae’r opera sebon yn dathlu’i phen-blwydd yn 40 heddiw, gyda phennod yn dangos ‘angladd’ Mark Jones, mab Kath – gobeithio bod canlyniad y pôl piniwn yn codi calon yr hen Kath rhyw ychydig!
Canlyniadau – pwy yw’ch hoff gymeriad o Pobol y Cwm?
Maggie ‘Post’ Tushingham – 9.9%
Reg Harries – 2.3%
Mark Jones – 8.2%
Hywel Llewelyn – 2.9%
Dani Thomas – 3.5%
Kath Jones – 15.2%
Mrs Mac (Jean McGurk Morris) – 14.6%
Dic ‘Deryn’ Ashurst – 11.7%
Meic Pierce – 7.6%
Gina Phillips – 4.7%
Rhywun Arall – 19.3%