Cyflwynwyr Sgorio
Fe fydd is-deitlau Saesneg yn cael eu darparu ar gyfer y rhaglen Sgorio yn ei chyfanrwydd o hyn ymlaen, cyhoeddodd S4C.
Ni fydd is-deitlau yn yr iaith Gymraeg.
Mae’r sianel eisoes yn darparu trac sain Saesneg ar gyfer darllediadau gemau byw Uwch Gynghrair Cymru ar y rhaglen bêl-droed Sgorio – sy’n rhan o’r sioe chwaraeon ddydd Sul, Clwb, erbyn hyn.
Ond ar ôl ymgynghori gyda gwylwyr S4C, Cymdeithas Bêl-droed Cymru a chlybiau pêl-droed Cymru, mae S4C wedi penderfynu darparu is-deitlau Saesneg ar gyfer yr holl raglen, nid yn unig ar gyfer y gêm ei hun.
Dywedodd Llion Iwan, Golygydd Cynnwys Chwaraeon a Rhaglenni Ffeithiol S4C, mai denu gwylwyr newydd yw un o’r prif resymau tros gael is-deitlau Saesneg:
“Mae’n siŵr o gynyddu mwynhad y gwylwyr o’r rhaglen bêl-droed brynhawn Sul a denu gwylwyr newydd hefyd gobeithio.”
Ychwanegodd Gwyn Derfel, Ysgrifennydd Uwch Gynghrair Cymru Corbett Sports:
“Rydym yn sicr y caiff y newydd ei groesawu’n fawr gan nifer sylweddol o gefnogwyr ac rydym yn gobeithio y bydd mwy o gefnogwyr newydd i’n Cynghrair Cenedlaethol yn cael eu creu o’r herwydd.”