Mae BAFTA Cymru wedi cyflwyno gwobr arbennig i Pobol Y Cwm heddiw i ddathlu pen-blwydd yr opera sebon yn 40 oed.
Cafodd y wobr arbennig ei chyflwyno mewn digwyddiad arbennig yn stiwdios y BBC ym Mae Caerdydd ble mae’r rhaglen, sydd bellach yn cael ei darlledu ar S4C, nawr yn cael ei ffilmio.
Fe ddangoswyd y bennod gyntaf o Pobol Y Cwm, sydd yn cael ei gynhyrchu gan BBC Cymru Wales, ar 16 Hydref 1974.
Cyflwynwyd y Wobr Arbennig gan gyfarwyddwr BAFTA Cymru Hannah Raybould ac fe gafodd ei chasglu gan Gareth Lewis, sydd yn actio cymeriad Meic ar y rhaglen, ar ran gweddill y cast a’r criw.
Fe fydd Gareth Lewis yn ymddeol o’r rhaglen ar ddiwedd y flwyddyn hon, ar ôl 39 mlynedd fel aelod o’r cast.
“Mae Pobol Y Cwm wedi bod yn un o raglenni mwyaf poblogaidd ar S4C ers i’r sianel ddechrau darlledu ac yn yr amser yna mae’r cast a’r criw wedi darganfod a datblygu nifer o unigolion talentog,” meddai Raybould.
“Mae pwyllgor BAFTA Cymru’n falch iawn o allu cydnabod llwyddiant Pobol Y Cwm dros bedwar degawd o ddarlledu.”
Pen-blwydd Hapus!
Yn ystod yr wythnosau diwethaf mae S4C wedi bod yn ail-ddangos rhai o uchafbwyntiau’r opera sebon dros y deugain mlynedd ddiwethaf.
Yn ddiweddar fe ddychwelodd dau o gymeriadau mwyaf poblogaidd y gyfres, Kath Jones a’i merch Stacey, i bentref dychmygol Cwmderi ar gyfer ‘angladd’ mab Kath, Mark.
Ac fe fynnodd prif weithredwr S4C, Ian Jones, fod rhagor i ddod ar Pobol y Cwm.
“Mae deugain mlynedd yn gamp aruthrol, ac mae’r gyfres a’i straeon mor berthnasol ag erioed i wylwyr S4C,” meddai Ian Jones.
“Mae’n parhau’n rhan annatod o amserlen S4C ac rwy’n siŵr yr aiff o nerth i nerth yn y blynyddoedd i ddod. Pen-blwydd Hapus Pobol Y Cwm!”