Cwrt Insole yn Llandaf
Mae disgyblion o Ysgol Uwchradd Cantonian yng Nghaerdydd wedi codi £3,000 ar ôl cwblhau taith gerdded 20 milltir er mwyn cofio am y glowyr a fu farw yn nhrychineb Pwll Glo Cymer.
Fe wnaeth 22 o ddisgyblion a phedwar aelod o staff yr ysgol gwblhau’r daith rhwng Pwll Glo Cymer ym Mhorth a Chwrt Insole yn Llandaf – y llwybr hanesyddol a ddefnyddiwyd i drawsnewid glo’r Rhondda yn ‘Aur Caerdydd’.
Ar ddechrau’r daith, fe wnaeth Maer Porth roi darn o lo yr un i’r grŵp ac ar ôl cyrraedd pen y daith cafodd y glo ei gyfnewid am aur gan aelod o Ymddiriedolaeth Cwrt Insole, Llandaf – cartref perchennog Pwll Glo Cymer a’i ddisgynyddion tan 1938.
Yn ogystal, cafodd plac coffa ei ddatguddio i gofio am y 114 o lowyr fu farw ar ôl ffrwydrad tanddaearol yn y pwll ar 15 Gorffennaf 1856.
Bydd y £3,000 yn mynd tuag at helpu i adfer Tŵr Cloc Buarth Stabl a’r Cloc yn Insole Court.
Digwyddiad blynyddol
Yn dilyn y daith yma, mae Ymddiriedolaeth Cwrt Insole wedi cyhoeddi y bydd y daith yn ddigwyddiad blynyddol ac y bydd disgyblion Ysgol Uwchradd Cantonian yn parhau i’w gefnogi.
Dywedodd Jack Evans, disgybl yn Ysgol Uwchradd Cantonian ar ôl cwblhau’r daith:
“Roedd y diwrnod yn heriol iawn ond llwyddodd pawb i aros yn frwdfrydig wrth gerdded â ffrindiau. Ar ôl 20 milltir a 42,000 o gamau, roedd y croeso yn rhoi boddhad. Rwy’n edrych ymlaen at gymryd rhan y flwyddyn nesaf a gallai fod hyd yn oed yn fwy ac yn well.”