Mae protest o blaid rhoi cefnogaeth i Gwrdiaid sy’n brwydro ISIS wedi cau’r M4 dros Bont Hafren am gyfnod heno.

Dywed Heddlu Gwent fod oedi hir yn yr ardal yn sgil y brotest gan geir oedd â baneri yn mynegi cefnogaeth i’r Cwrdiaid.

Mae’r M4 bellach ar agor yn dilyn y weithred.