Mae corff sy’n cynrychioli capeli annibynnol Cymraeg wedi anfon neges at aelodau seneddol Cymru yn galw arnyn nhw i gefnogi cynnig yn Nhŷ’r Cyffredin ar gydnabod gwladwriaeth Balesteinaidd.
Mae cynnig yr aelod o feinciau ôl Llafur, Grahame Morris AS, yn galw ar Brydain i gydnabod gwladwriaeth Balesteinaidd, wythnos ar ôl i lywodraeth newydd Sweden gyhoeddi ei bod yn gwneud hynny.
Dywed Cyngor Undeb yr Annibynwyr Cymraeg, sy’n cynrychioli 430 o gapeli yng Nghymru, ei fod wedi penderfynu’n unfrydol i ofyn i aelodau seneddol “alw ar lywodraeth y DU i gydnabod gwladwriaeth Balesteinaidd ochr yn ochr ag Israel.”
“Credwn y gallai hyn anadlu bywyd newydd i’r broses o ddwyn heddwch rhwng y Palestiniaid ac Israel,” medd y llythyr.
“Credwn hefyd y byddai sicrhau heddwch rhwng y ddwy genedl yn gymorth mawr i leddfu’r eithafiaeth dreisgar a’r rhyfela yn y Dwyrain Canol yn gyffredinol.”
‘Dyletswydd hanesyddol Prydain i gydnabod Palesteina’
Mae Ed Miliband wedi mynnu bod aelodau seneddol Llafur yn cefnogi’r cynnig, er bod anniddigrwydd ymhlith grŵp Labour Friends of Israel am hynny. Mae nifer o Geidwadwyr wedi datgan y byddan nhw’n cefnogi’r cynnig, gan gynnwys dau a fu’n aelodau o’r Cabinet tan yn ddiweddar, Ken Clarke a’r Farwnes Warsi, ynghyd â Syr Alan Duncan.
Dywedodd Alan Duncan heddiw fod gan Brydain “ddyletswydd hanesyddol a moesol i gydnabod Palesteina fel gwladwriaeth.”
Mae’r syniad o greu dwy wladwriaeth wedi ennyn cefnogaeth gan fwyafrif aelodau’r Cenhedloedd Unedig fel modd o ddatrys yr anghydfod rhwng Israeliaid a Phalestiniaid. Daeth yr anghydfod i’r amlwg eleni yn ymgyrch waedlyd Israel yn Gaza ym mis Gorffennaf ac Awst.