Tren Arriva Cymru
Mae disgwyl rhagor o oedi i deithwyr bore ma wrth i docynwyr ar wasanaethau Trenau Arriva Cymru barhau gyda’u streic 24 awr yng ngogledd Cymru.

Bydd y streic yn dod i ben am hanner dydd heddiw.

Mae aelodau o undeb yr RMT yn cynnal y streic yn dilyn penderfyniad Arriva Cymru i ddiswyddo dau aelod o staff sydd wedi bod yn absennol o’u gwaith am gyfnodau hir oherwydd salwch.

Yn ôl llefarydd ar ran Arriva Cymru roedd y ddau weithiwr wedi cymryd 890 o ddyddiau i ffwrdd yn sâl rhyngddyn nhw, ond mae’r RMT yn dadlau bod y cwmni wedi mynd yn groes i’w bolisi absenoldeb.

Fe ddechreuodd y streic am hanner dydd ddoe.

Roedd yr anghydfod wedi effeithio gwasanaethau ar hyd arfordir y gogledd gan gynnwys trenau o Gaergybi i Gaerdydd a chafodd bysiau eu defnyddio er mwyn cynnal gwasanaeth i deithwyr.

Dywed Trenau Arriva Cymru eu bod yn gobeithio adfer eu gwasanaeth arferol ar ôl i’r streic ddod i ben am hanner dydd heddiw.