Chris Coleman
Mae rheolwr Cymru Chris Coleman wedi llongyfarch ei beldroedwyr am eu “perfformiad gwych” neithiwr.

Gem gyfartal oedd hi wrth i Gymru wynebu Bosnia-Herzegovina yn Stadiwm Dinas Caerdydd.

Mae’n codi Cymru i frig y grŵp a hynny er gwaetha’r ffaith bod rhai chwaraewyr amlwg ar goll neithiwr oherwydd anafiadau gan gynnwys Aaron Ramsey a Joe Allen. Cafwyd ergyd gan Gareth Bale yn y munudau olaf on di-sgôr oedd hi ar y chwiban olaf.

Dywedodd Coleman ar ôl y gêm nos Wener: “Mae’r chwaraewyr yma wedi tyfu fyny… Roedd ’na dorf enfawr ac ni wnaethon nhw eu siomi.”

Roedd torf o 30,741 yn gwylio’r gêm neithiwr.

Bydd Cymru nawr yn croesawu Cyprus i Gaerdydd nos Lun.