Fe fydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn codi ffi o £60 bob tro mae Swyddog Cynllunio yn gorfod mynd i ymweld â safle sy’n cael ei ystyried ar gyfer cais cynllunio.

Mae’r newid yn rhan o broses i greu Gwasanaeth Cynllunio mwy effeithlon, yn ôl y Parc, ac yn ffordd o flaenoriaethu gwaith y swyddogion cynllunio.

Yn y gorffennol, mae’r Parc yn dweud bod  ymweliadau â safleoedd cyn cais yn defnyddio cryn dipyn o adnoddau staff ac yn gwastraffu amser teithio.

Ond y gobaith o dan y cynllun newydd yw y bydd swyddogion yn treulio llai o amser ar y lôn a mwy o amser yn canolbwyntio ar brosesu ceisiadau cynllunio.

‘Gwell gwasanaeth i’r cyhoedd’

Yn ddiweddar, cynhaliwyd cymorthfeydd cynllunio ym marchnadoedd Bryncir a Dolgellau. Y bwriad yw parhau i ddarparu’r cyngor cynllunio drwy’r cyfryngau hyn.

“Yn y pen draw, y nod yw cyflwyno gwell gwasanaeth i’r cyhoedd,” meddai Jonathan Cawley, Cyfarwyddwr Cynllunio a Threftadaeth Ddiwylliannol yr Awdurdod.

“Bydd yr Awdurdod yn parhau i ddarparu cyngor am ddim i ymgeiswyr sydd yn meddwl gwneud cais cynllunio a bydd yn parhau i groesawu pobol i’r pencadlys ym Mhenrhyndeudraeth, i’r cymorthfeydd cynllunio yn ogystal â chroesawu gohebiaeth drwy’r post, e-bost neu alwadau ffôn.

“Ond y gwir yw bod ymweliadau safle yn ddrud – o ran amser swyddogion yn ogystal â chostau teithio a bydd yr arbediad a wneir drwy leihau amser ac adnoddau staff yn sylweddol fwy na’r £60 y byddwn yn ei godi.”

Mae cyfran fawr o Awdurdodau Lleol yng Nghymru a Lloegr bellach naill ai yn, neu ar fin codi tâl.