Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi galw ar Gyngor Wrecsam i wneud tro pedol a pheidio â thorri nôl ar arian i feithrinfeydd cyfrwng Cymraeg.

Y Mudiad Meithrin sy’n darparu gwasanaethau addysg Cymraeg i blant blynyddoedd cynnar yn Sir Wrecsam ac o ganlyniadau i doriadau gan Lywodraeth Prydain, mae’r Cyngor yn bwriadu torri £23,000 o’i gyfraniad iddo.

Mae’n golygu y bydd anfon plant i feithrinfa cyfrwng Cymraeg yn fwy costus na meithrinfa Saesneg, ac mae hyn yn trin y Gymraeg yn “llai ffafriol” yn ôl y Gymdeithas.

Mae’r Gymraeg yn iaith leiafrifol yn y rhan fwyaf o ardal Wrecsam.

Gweithredu

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi ysgrifennu at Gomisiynydd y Gymraeg ynglŷn â’r sefyllfa, gan ofyn iddi ymyrryd. Dywedodd Aled Powell, Cadeirydd Rhanbarth Clwyd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:

“Byddai’r toriadau hyn yn effeithio’n ddifrifol ar gyfleoedd plant i ddod i allu siarad Cymraeg, yn enwedig rhain sy’n dod o gefndiroedd llai cyfoethog.

“Mae’n hanfodol bwysig bod pob un plentyn yn y sir yn cael y gallu i fwynhau a chyfathrebu yn Gymraeg o’r blynyddoedd cynnar os ydyn ni am adeiladu cymdeithas lle mae iaith unigryw Cymru yn ffynnu.

“Mae torri’r gyllideb yma yn gwahaniaethu rhwng y ddarpariaeth trwy gyfrwng y Gymraeg ar Saesneg trwy drin yr iaith Gymraeg yn llai ffafriol.

“Toriad sydd, o bosib, yn groes i Fesur y Gymraeg 2011, ac felly rydyn ni wedi ysgrifennu at Gomisiynydd y Gymraeg gan ofyn iddi ymyrryd.”

Mae golwg360 wedi gofyn i Gyngor Wrecsam am ymateb.