Cyngor Sir Ddinbych
Mae cynlluniau i ail-agor Canolfan Hamdden Nova ym Mhrestatyn, a’i ailddatblygu ar gost o £4.2 miliwn, wedi cael eu cymeradwyo gan Gyngor Sir Ddinbych heddiw.

Fe wnaeth Canolfan Nova gau yn dilyn penderfyniad Hamdden Clwyd i fynd i ddwylo’r gweinyddwyr yn wirfoddol fis Chwefror diwethaf.

Roedd Cabinet Cyngor Sir Ddinbych wedi penderfynu rhoi’r gorau i ariannu Hamdden Clwyd er gwaethaf cais i wneud hynny gan y cwmni.

Yn dilyn hynny, fe wnaeth y cyngor gynnal gwerthusiad manwl o’r cyfleuster tra bod achos busnes llawn ar gyfer ei ailddatblygu yn cael ei lunio.

Y cynlluniau

Mewn partneriaeth a Alliance Leisure Services, mae’r cynlluniau i ailddatblygu’r safle’n cynnwys cadw’r pwll nofio gan wella’r cyfleusterau newid; adeiladu stafell newydd ar gyfer gwersi ffitrwydd a digwyddiadau cymunedol; ac adeiladu caffi newydd.

“Mae ailddatblygu Canolfan Nova yn ddarn pwysig o’r jig-so yn ein gweledigaeth i ddatblygu’n cyfleusterau hamdden,” meddai Jamie Groves, pennaeth cyfathrebu, marchnata a hamdden Sir Ddinbych.

“Rydym am ddarparu cyfleusterau hamdden o’r radd flaenaf a fydd yn annog mwy o bobl i gymryd rhan mewn gweithgareddau, gan ddarparu lleoliadau o ansawdd uchel er budd y gymuned leol ac ymwelwyr.”