Siop sglodion Penaluna's
Siop sglodion Penaluna’s yn Hirwaun, Aberdâr yn Rhondda Cynon Taf sydd wedi cael ei henwi fel y siop sglodion annibynnol orau yng Nghymru gan y corff Seafish.

Fe fydd y siop rŵan yn mynd ymlaen i gystadlu yn erbyn naw o siopau eraill o’r Alban, Gogledd Iwerddon a Lloegr am y teitl Prydeinig.

Mae Penula’s Famous Fish and Chips eisioes wedi ennill casgliad o wobrau eraill gan gynnwys cael eu henwi yn un o’r tair siop fwyd orau yn ne Cymru gan y South Wales Echo.

Dywedodd perchennog y siop, Lee Penaluna, ei fod wedi “gwirioni” fod y siop wedi dod i’r brig yng Nghymru ar gyfer 2015.

Er mwyn ennill y teitl, roedd yn rhaid i Lee Penaluna a’r gweithwyr gael eu profi ar safon y bwyd, polisïau cyflenwi a gwasanaeth cwsmeriaid.

Dywedodd llefarydd ar ran Seafish, sy’n cynnal y gwobrau: “Bydd cynrychiolwyr o’r 10 siop rŵan yn gorfod arddangos eu sgiliau cyflwyno a mynd o flaen panel o arbenigwyr a beirniaid o’r diwydiant a’r wasg.

“Bydden nhw’n cael eu holi ar amryw o bynciau yn ymwneud a’r diwydiant cyn i’r enillydd terfynol gael ei gyhoeddi mewn seremoni yn Llundain fis Ionawr.”