Leanne Wood
Mae Plaid Cymru wedi cyhoeddi y bydd yn cyflwyno gwelliannau i’r Drafft o Fesur Cymru er mwyn cryfhau’r Cynulliad a gwella atebolrwydd y sefydliad.

Mae’r gwelliannau, sy’n ymwneud ag atebolrwydd gwleidyddol, yn cynnwys ehangu’r meysydd a ddatganolwyd i’r Cynulliad, rhoi’r hawl i’r Cynulliad gynnal refferenda, a chaniatáu i’r Cynulliad benderfynu faint o Aelodau Cynulliad sydd ei angen.

Mae gwelliannau eraill yn cynnwys diwygio Fformiwla Barnett i gyllido Cymru a chynyddu pwerau benthyg Llywodraeth Cymru.

Dywedodd arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood y byddai’r newidiadau yn golygu y bydd y Cynulliad– am y tro cyntaf – yn dod yn gyfrifol ac atebol i bobl Cymru.

Dywedodd arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood: “Bydd y gwelliannau i Fesur Cymru a gyflwynwyd gan Blaid Cymru heddiw yn cyflwyno pwerau cliriach ac yn symud tuag at roi i bobl Cymru gydraddoldeb gyda’r hyn sy’n cael ei addo i bobl yr Alban.

“Bydd y pwerau hyn yn caniatáu i Gymru ddechrau’r broses o greu dyfodol tecach, mwy ffyniannus a chyfartal.”