Cynulliad Cenedlaethol
Bydd ymgyrchwyr iaith yn cynnal rali ym Mhwllheli heddiw gan alw am newidiadau i’r drefn gynllunio er mwyn cryfhau’r Gymraeg, ar drothwy cyhoeddi Bil Cynllunio Llywodraeth Cymru.
Mae disgwyl i’r Llywodraeth gyhoeddi’r ddeddfwriaeth ddydd Llun.
Pan gyhoeddwyd y fersiwn drafft ym mis Chwefror eleni, nid oedd yn cynnwys yr un gair am y Gymraeg ac mae golwg360 wedi cael ar ddeall nad yw’r Gymraeg yn cael ei hystyried o gwbl yn y Bil Cynllunio.
Bu ymgyrchwyr iaith wrthi ers misoedd yn gofyn i Lywodraeth Cymru ystyried yr iaith yn rhan o’r drefn gynllunio, ac maen nhw wedi cael addewid gan y Prif Weinidog Carwyn Jones a’r Gweinidog Cynllunio Carl Sargeant y bydden nhw’n gwneud eu gorau i gynnwys y Gymraeg yn y Bil.
Ond mae’n ymddangos nawr na fydd unrhyw sôn am yr iaith pan fydd y Bil yn cael ei gyflwyno ddydd Llun.
‘Addewidion’
Dywedodd Toni Schiavone o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg, ac un o’r rhai fydd yn annerch y rali ym Mhwllheli heddiw: “Byddai’n rhyfedd pe bai dim sôn am y Gymraeg yn y Bil Cynllunio gan ystyried yr addewidion gan Carwyn Jones, yn enwedig yr un clir yn ei ddogfen polisi diweddar ‘Bwrw Ymlaen’.
“Cawson ni gyfarfod buddiol gyda’r Gweinidog Cynllunio Carl Sargeant i drafod y Bil drafft ac oedd e’n swnio’n ddigon cefnogol i’n gofynion. Wedi dweud hynny, roedd awgrym bod y gwasanaeth sifil yn llai bodlon â’r syniadau.
“Ond, dylai Carl Sargeant a Carwyn Jones fod wedi cael eu ffordd, wedi’r cwbl, nhw sy’n cael eu hethol nid y gwasanaeth sifil.”
Ychwanegodd Toni Schiavone ei fod yn obeithiol o hyd, fodd bynnag, fod Carwyn Jones yn mynd i weithredu’u gofynion.
‘Teg i bawb’
Fe awgrymodd Llywodraeth Cymru eu bod yn credu mai drwy Gynlluniau Datblygu Lleol oedd y ffordd fwyaf priodol o godi pryderon yn ymwneud â’r Gymraeg.
“Mae Llywodraeth Cymru wedi ymroi i system gynllunio deg i bawb,” meddai llefarydd mewn datganiad.
“Dylai awdurdodau lleol sicrhau fod yr iaith Gymraeg yn cael ei hystyried yn iawn pan mae Cynlluniau Datblygu Lleol [LDP] yn cael eu paratoi a’u hadolygu.
“Mae Nodyn Cyngor Technegol [TAN] 20 yn ei gwneud hi’n glir mai’r lle mwyaf priodol o fewn y system gynllunio ar gyfer ystyriaethau’n ymwneud ag effaith ar y Gymraeg yw drwy’r LDP.”