Warren Gatland
Fe fydd hyfforddwr tîm rygbi Cymru, Warren Gatland yn derbyn yr OBE heddiw.
Bydd y gŵr 51 oed o Seland Newydd yn cael ei anrhydeddu am ei wasanaeth i’r byd rygbi mewn seremoni yng Nghastell Windsor.
Bu Gatland yn hyfforddwr Cymru ers 2007, ac roedd yn hyfforddwr y Llewod ar eu taith lwyddiannus i Awstralia’r llynedd.
Fis Mehefin, dywedodd Gatland ei fod e wrth ei fodd o gael derbyn yr anrhydedd.