Mae adroddiadau’n awgrymu bod Clwb Pêl-Droed Abertawe’n chwilio am fuddsoddwyr o dramor.
Ond mae’r cadeirydd Huw Jenkins yn mynnu nad yw’r consortiwm sy’n rheoli’r clwb wedi derbyn unrhyw gynigion i’w brynu.
Mae lle i gredu bod trafodaethau wedi’u cynnal rhwng y clwb a buddsoddwyr o’r Unol Daleithiau, Rwsia ac Asia.
Roedd grŵp o Americanwyr yn bresennol yn Stadiwm Liberty ychydig wythnosau yn ôl ac mae ganddyn nhw gysylltiadau ag un o gyfarwyddwyr yr Elyrch, Brian Katzen.
Daw’r adroddiadau yn dilyn sylwadau gan Huw Jenkins fis diwethaf fod y clwb ar ei hôl hi’n ariannol o’i gymharu â chlybiau eraill yr Uwch Gynghrair, er bod yr Elyrch yn bumed ar hyn o bryd.
Er nad oes gan yr Elyrch ddyledion ar hyn o bryd, gallai’r ffaith nad ydyn nhw’n berchen ar Stadiwm Liberty fod yn faen tramgwydd i unrhyw bosibilrwydd o werthu’r clwb yn y dyfodol.
Byddai unrhyw gytundeb i werthu’r clwb hefyd yn ddibynnol ar gael caniatâd Ymddiriedolaeth y Cefnogwyr, sydd â rhandaliadau gwerth 20%.
Mae’r ffilm sy’n adrodd eu hanes, ‘Jack to a King’ wedi bod mewn sinemâu ledled De Cymru yn ystod yr wythnosau diwethaf.