Chris Coleman

Dyw Joe Allen ddim wedi’i enwi yng ngharfan Cymru ar gyfer eu gemau yn erbyn Bosnia-Herzegovina a Cyprus oherwydd anaf.

Fe enwodd y rheolwr Chris Coleman rai chwaraewyr newydd mewn carfan o 27 chwaraewr sy’n cynnwys deg amddiffynnwr.

Mae’n cynnwys chwaraewr canol cae Wolves Lee Evans, a allai ennill ei gap cyntaf, gyda Dave Cotterill a Dave Edwards hefyd yn dychwelyd i’r garfan am y tro cyntaf ers blynyddoedd.

Cafodd yr amddiffynnwyr Paul Dummett, Rhoys Wiggins a Danny Gabbidon hefyd eu cynnwys.

Ond dyw’r chwaraewyr canol cae Andrew Crofts a David Vaughan ddim wedi’u henwi.

Nid yw’r chwaraewr canol cae Aaron Ramsey wedi’i enwi chwaith oherwydd anafiadau, ac nid yw’r ymosodwr Sam Vokes yn holliach mewn pryd.

Ond mae’r capten Ashley Williams a’r prif seren Gareth Bale yn y garfan, ac mae Emyr Huws a Hal Robson-Kanu hefyd yn ffit.

Bydd Cymru’n herio Bosnia ar 10 Hydref ac yna Cyprus ar 13 Hydref, gyda’r ddwy gêm yn cael ei chwarae yn Stadiwm Dinas Caerdydd.

Fe ddechreuodd Cymru eu hymgyrch ragbrofol Ewro 2016 fis diwethaf gyda buddugoliaeth o 2-1 dros Andorra.

Carfan Cymru:

Wayne Hennessey, Kyle Letheren, Owain Fôn Williams

James Chester, James Collins, Ben Davies, Paul Dummett, Danny Gabbidon, Chris Gunter, Sam Ricketts, Neil Taylor, Rhoys Wiggins, Ashley Williams

David Cotterill, David Edwards, Lee Evans, Emyr Huws, Andy King, Joe Ledley

Gareth Bale, Simon Church, Tom Lawrence, Hal Robson-Kanu, Jake Taylor, George Williams, Jonathan Williams