Huw Lewis
Mae cynllun addysg i wella addysg a sicrhau bod plant yn elwa o ddysgu ac addysgu rhagorol wedi cael ei lansio gan y Gweinidog Addysg, Huw Lewis heddiw.

Mae cynllun ‘Cymwys am Oes’ wedi’i anelu at blant 3 i 19 oed ac mae’n amlinellu gweledigaeth Llywodraeth Cymru am addysg plant hyd at 2020.

Ymhlith yr argymhellion yn y cynllun mae sicrhau “gweithlu cryf, cwricwlwm sy’n apelgar, cymwysterau sy’n cael eu parchu’n fyd-eang a chydweithio rhwng arweinwyr addysg i godi safonau.”

Wrth lansio’r cynllun, dywedodd y Gweinidog Addysg, Huw Lewis fod addysg o safon uchel yn gwella’r economi, a lles unigolion a’r gymdeithas gyfan.

Dywed ei fod yn gobeithio y bydd “dysgwyr yng Nghymru’n mwynhau dysgu ac addysgu sy’n eu hysbrydoli i lwyddo”.

Ei nod yn y pen draw, meddai, yw sicrhau bod “y system addysg gystal ag y gall fod, ac ymhlith y gorau yn y byd.”

Mae’r cynllun yn canolbwyntio ar ddulliau dysgu ac addysgu Cymreig yn eu hanfod.

Fel rhan o’r cynllun, fe fydd Cerdyn Adroddiad Addysg Cymru’n cael ei gyhoeddi er mwyn nodi ystod o ddangosyddion perfformiad.

Y pedwar prif amcan yw:
• Gweithlu proffesiynol ardderchog
• Cwricwlwm apelgar er mwyn i bobol ifanc ddefnyddio’u gwybodaeth a’u sgiliau
• Cymwysterau sy’n cael eu cydnabod yn genedlaethol a rhyngwladol
• Cydweithio rhwng arweinwyr addysg i godi safonau

‘Hyder’

Mae undeb yr NAHT yn croesawu’r cynllun, gan ddweud ei fod yn rhoi “cryn hyder” iddyn nhw fod system yn ei lle “y gall rhieni, gwleidyddion ac athrawon fod yn falch ohoni”.

Dywedodd llefarydd yr undeb, Ruth Davies: “Rydyn ni wedi cydweithio’n llwyddiannus â Chynulliad Cymru, yn enwedig o ran y camau diwygiedig ar gyfer bandio a chategoreiddio ysgolion.

“Mae hyn yn rhoi cryn hyder i ni yng Nghymru ein bod ni wedi gosod y seiliau ar gyfer system o hunan-wella y gall rhieni, gwleidyddion ac athrawon fod yn falch ohoni.

“Mae cynllun pedwar pwynt Mr Lewis ar gyfer addysg yng Nghymru wedi’i gefnogi’n llawn gan NAHT.

“Rydym yn credu’n gryf mewn cyflwyno cwricwlwm sy’n ddeniadol ac ymgysylltiol, system sy’n golygu bod pawb yn cydweithio i sicrhau gwelliant a chymwysterau a gaiff eu cydnabod yn genedlaethol ac yn rhyngwladol ac a fydd yn sicrhau bod cenhedlaeth newydd o Gymry’n barod i weithio ac yn barod i lwyddo.”

‘Cyfle unigryw’

Ychwanegodd Ysgrifennydd Cyffredinol NAHT, Russell Hobby fod gan Gymru “gyfle unigryw” gyda’r cynllun newydd hwn.

“Gyda balchder yn ei diwylliant a’i hunaniaeth, gall adeiladu gweledigaeth ar gyfer addysg sy’n uno rhieni, athrawon, arweinwyr a gweinidogion.

“Y fath weledigaeth glir, sefydlog ac unedig yw’r unig beth sydd wedi’i brofi i sicrhau rhagoriaeth.

“Rydym yn falch, felly, i weld pwyslais ar broffesiynoldeb a chydweithio ynghyd â chadernid o ran cymwysterau a’r cwricwlwm.”