Mae plant mor ifanc ag 13 oed wedi cael eu dal yn yfed a gyrru yng Nghymru yn y blynyddoedd diwethaf, yn ôl ffigyrau sy’n cael eu rhyddhau gan yr heddlu heddiw.

Mae tua 1,000 o blant o dan 18 oed wedi cael eu cyhuddo o yfed a gyrru ym Mhrydain ers 2008, gyda chyfartaledd o bum plentyn yn cael eu dal gan yr heddlu bob wythnos.

Dros y ffin, Manceinion oedd yr ardal lle cafodd y mwyaf o blant dan oed eu dal gyda 409 yn cael eu harestio ers 2008.

Daeth y wybodaeth i law yn dilyn Cais Rhyddid Gwybodaeth i 43 llu ledled Prydain.

Cymru

Ymysg heddluoedd Cymru, Heddlu’r De welodd y mwyaf o blant ifanc yn yfed a gyrru, gyda 219 o blant yn cael eu dal mewn car ar ôl gor-yfed. Cafodd gymaint â 59 o blant 13 oed eu harestio am y drosedd yn 2010.

Yng ngogledd Cymru, 149 oedd y cyfanswm ers 2008 gyda 21 o yrwyr 14 oed yn cael eu dal rhwng 2008-2009.

75 o blant dan oed gafodd eu harestio yng Ngwent, 19 ohonyn nhw yn 15 oed.

Dyfed Powys yw’r ardal lle gwelwyd y lleiaf o blant yn yfed a gyrru – cafodd 50 eu dal ac yn eu mysg roedd 15 o blant 15 oed.

Ymwybyddiaeth

“Mae’n rhaid i yrwyr cyfreithlon fod yn ymwybodol o’r peryglon sydd ar y ffyrdd,” meddai Bryn Brooker o Nextbase, cwmni sy’n gosod camerâu mewn ceir heddlu.

“Mae’r peryglon yma yn bresennol mewn sawl ffordd – fel mae’r ffigyrau yma yn profi.”

Ychwanegodd llefarydd ar ran yr Adran Drafnidiaeth: “Mae yfed a gyrru yn fygythiad sy’n lladd nifer o fywydau, ac mae’r Llywodraeth yn cryfhau deddfau er mwyn helpu’r heddlu i leihau’r broblem.”