Dr Dannie Abse
Mae’r bardd a’r awdur Dr Dannie Abse wedi marw yn 91 oed.
Fe enillodd sawl gwobr am ei waith gan gynnwys Llyfr y Flwyddyn yn 2008 am ei waith The Presence, a oedd yn disgrifio ei berthynas gyda’i wraig, Joan, a fu farw mewn damwain car yn 2005.
Fe lwyddodd Abse i gyfuno ei yrfa fel meddyg gyda’i yrfa fel awdur ac roedd y ddau yn themâu cyffredin yn ei farddoniaeth, gan gynnwys ei gefndir Iddewig a Chymreig.
Cafodd ei eni yng Nghaerdydd yn 1923 ac roedd yn frawd i’r cyn AS Llafur a’r cyfreithiwr Leo Abse a fu farw yn 2008.
Dywedodd ei asiant Robert Kirby ar Twitter: “Newyddion trist iawn bod Dannie Abse wedi marw. Bardd gwych a ffrind da.”
Fe dderbyniodd CBE am ei gyfraniad i farddoniaeth a llenyddiaeth yn 2012.
‘Colled enfawr’
Roedd disgwyl i’r cyhoeddwyr Hutchinson ryddhau casgliad olaf o farddoniaeth y bardd, ‘Ask the Moon’, ym mis Chwefror.
Dywedodd y cwmni: “Rydym yn drist iawn o glywed am farwolaeth Dannie Abse. Fe fydd ei gerddi yn parhau yn fyw.”
Dywedodd prif-weithredwr Llenyddiaeth Cymru, Lleucu Siencyn:
“Trist iawn clywed am farwolaeth Dannie Abse. Roedd yn fardd ac awdur gwych oedd yn cael ei edmygu gan nifer fawr o bobol. Colled enfawr.”
Ac ar gyfrif trydar y Guardian, dywedwyd: “Newyddion trist, ond mae gymaint i ddathlu am ei fywyd.”