Dai Havard
Mae Aelod Seneddol Llafur Merthyr Tudful a Rhymni, Dai Havard wedi cyhoeddi na fydd e’n sefyll eto yn yr etholiad cyffredinol nesaf.

Dywedodd fod y ffaith na fydd yr etholiad cyffredinol nesaf yn cael ei gynnal tan 2015 yn un o’r rhesymau am ei benderfyniad.

Gan fod newidiadau cyfansoddiadol sylweddol yn debygol o ddigwydd yn y cyfnod etholiadol nesaf, dywedodd Havard y byddai’n well pe bai cynrychiolydd newydd yn cymryd yr awenau.

Dywedodd hefyd y byddai ar drothwy’r oedran ymddeol erbyn yr etholiad cyffredinol.

Yn y datganiad, dywedodd y byddai’n “parhau i weithio gorau y galla’i yn y Senedd ar ran fy etholwyr a gyda fy staff ymroddedig, gan barhau i ddarparu cyngor iddyn nhw”.

Dywedodd hefyd y byddai’n parhau i wasanaethu’r Pwyllgor Dethol Amddiffyn, Panel Cadeiryddion San Steffan a phwyllgorau Amddiffyn a Diplomyddiaeth, ac APPG y Dwyrain Canol a Gogledd Affrica.

Dywedodd y bu’n “fraint fawr” cael cynrychioli’r etholaeth ac y byddai “pennod newydd yn agor” yn hanes y Blaid Lafur yn dilyn ei ymddiswyddiad.