Fe fydd gŵyl newydd sbon yn cael ei chynnal ym mhentref Penygroes, Dyffryn Nantlle’r penwythnos yma, wedi ei hysbrydoli gan afalau.

Mae Gala ‘Fala yn cael ei drefnu gan y cynghorydd Craig ab Iago a’r bwriad yw denu mwy o sylw at yr ardal a’r potensial sydd yno i dyfu coed afalau er mwyn creu cynnyrch lleol.

Mae gwinllan a pherllan Pant Du ym Mhenygroes wedi bod yn prysur sefydlu enw da iddo’i hun ac yn gwerthu gwin, seidr, a sudd afal ers tua 2010.

“Os yw hi’n bosib cael gwinllan ym Mhenygroes, mae’n bosib gwneud unrhyw beth,” meddai Craig ab Iago.

Bydd y gweithgareddau, sy’n cynnwys cerddoriaeth fyw gan Meinir Gwilym a chyfle i flasu seidr lleol, yn dechrau am 10yb yng nghartref henoed, Plas Gwilym, ac yna’n symud ymlaen i winllan a chaffi Pant Du am 12.

Lleoliad

Wrth son am y lleoliad tra gwahanol i gynnal gŵyl, dywedodd Craig ab Iago:
“Mae’r henoed ym Mhlas Gwilym wedi son nad ydy’r gymuned leol yn cael llawer o ddim i’w wneud hefo nhw. Maen nhw’n teimlo fel eu bod nhw’n cael eu hanwybyddu i raddau, felly dyma gyfle iddyn nhw ymwneud mwy hefo’r trigolion.”

“Rydym ni isio cychwyn rhywbeth mawr. Fel mae pobol yn mynd i’r ŵyl fwyd yng Nghonwy neu am wyliau i Fangor, ymhen pum mlynedd mi fyswn i’n hoffi i bobol fod yn siarad am Benygroes.

“Os fyddwn ni’n plannu coed afalau yn yr ardal, ac yn cychwyn creu lysh, mi fydd yn rheswm i bobol ddod yma i wario’u pres. Dyna’r syniad.

Economi

“Ond y peth pwysicaf yw gwneud rhywbeth i’r bobol leol,” ychwanegodd Craig ab Iago.

“Rydan ni angen sylwi ein bod ni’n gallu gwneud stwff yma yn Nyffryn Nantlle.

“Mi rydan ni angen dod a phres yma a’i gadw fo yma. A pa ffordd well i wneud hynny na trwy ddathlu bwyd lleol, iach?”