Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi cyhuddo Carwyn Jones o anwybyddu cwynion am “bryderon gwirioneddol” ynglŷn â chyflwr Gwasanaeth Iechyd Cymru.
Yn dilyn galwad y Gymdeithas Feddygol Brydeinig (BMA) am ymchwiliad annibynnol i holl wasanaethau iechyd Cymru, mae’r Ceidwadwyr yn honni fod Carwyn Jones wedi dewis peidio gwrando ar y cyngor arbenigol.
Fe ddywedodd BMA Cymru fod angen gwneud “newidiadau allweddol er mwyn sicrhau mai’r cleifion sy’n cael eu rhoi gyntaf.”
Roedd yn dilyn adroddiad wnaeth ddangos bod yr ymdeimlad ymysg gweithwyr iechyd yn isel iawn a bod safon a gofal yn y GIG yn isel.
“Rwy’n siomedig gydag agwedd y Prif Weinidog mewn ymateb i’r rhybuddion difrifol gan weithwyr blaenllaw’r GIG,” meddai arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies.
“Mae Cymru angen ymchwiliad annibynnol, tebyg i’r un gafodd ei gynnal yn dilyn yr helynt yn ysbyty Swydd Stafford.”