Carwyn Jones
Mae’r Prif Weinidog Carwyn Jones wedi dweud ei fod am wneud yn siŵr fod David Cameron yn cadw at ei air ar ôl iddo ddatgan ei fod am i Gymru fod wrth galon y trafodaethau am ddyfodol y Deyrnas Gyfunol yn dilyn refferendwm yr Alban.

Mewn datganiad, fe ddywedodd nad oes troi nôl ar ôl i’r digwyddiadau yn yr Alban chwalu’r status quo oedd yn bodoli gynt a bod yn
rhaid cynnig mwy o bwerau i Gymru.

Fe fydd Carwyn Jones yn trafod y materion hyn ymhellach yn nadl Plaid Cymru yn y Senedd yfory.

‘Symud ymlaen’

Yn ei ddatganiad, dywedodd y Prif Weinidog:

“Mae’r status quo wedi mynd. Mae’r digwyddiadau yn yr Alban wedi ei sgubo i ffwrdd a does dim troi nôl erbyn hyn.

“Fe wnes i siarad hefo’r Prif Weinidog ddydd Gwener. Fe wnes i esbonio pa mor hanfodol yw hi i ddyfodol Prydain gael ei ddatblygu mewn ffordd sy’n cynnwys pob aelod o deulu’r DG.

“Mae’n rhaid i ni symud ymlaen o ddatrysiadau byr dymor i faterion sy’n ymwneud a heddiw ac mae’n rhaid cael proses ehangach i lunio setliad sy’n adlewyrchu holl anghenion y DG.

“Dywedodd y Prif Weinidog ei fod am i Gymru fod wrth galon y trafod ac mi fydda i’n gwneud yn siŵr ei fod yn cadw at ei air.”

Cwestiynau pigog

Mewn rhaglen arbennig ar Annibyniaeth sy’n cael ei darlledu ar Radio Cymru heno, bydd y bargyfreithiwr Gwion Lewis yn cyhuddo gwleidyddion Cymru o fethu a dal eu tir ynglŷn a pharhad fformiwla Barnett, sy’n gweld Cymru’n cael ei than-gyllido o £300,000 miliwn y flwyddyn.

Cyn y rhaglen, dywedodd Gwion Lewis wrth golwg360:
“Dal i ddisgwyl ydym ni am unrhyw un yn y Cynulliad, o unrhyw blaid, i godi a dadlau’n angerddol yn erbyn parhad fformiwla nad yw Barnett ei hun bellach yn ei chefnogi. Beth mae hynny’n ei ddweud wrthym am gyflwr ein trafodaeth gyhoeddus ni yng Nghymru yn 2014?

“Y naratif poblogaidd yw fod Cymru, yn y cyfnod modern, wedi ei chael hi’n anodd torri ei chwys ei hun yn wyneb ‘gorthrwm’ San Steffan. Ond i ba raddau y mae’r bai arnom ni’n hunain am hynny?

“Ai cenedl hyderus ac effro yw’r Cymry heddiw, ynteu cenedl gysglyd yn ymlwybro’n ddigyfeiriad o un bennod i’r llall?”